Content-Length: 145474 | pFad | https://cy.wikipedia.org/wiki/Abraham

Abraham - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Abraham

Oddi ar Wicipedia
Abraham
Ganwydאַבְרָם Edit this on Wikidata
1813 CC Edit this on Wikidata
Bu farw1638 CC Edit this on Wikidata
Hebron, Canaan Edit this on Wikidata
Man preswylCanaan, Mesopotamia Edit this on Wikidata
Galwedigaethheusor, sylfaenydd crefydd, proffwyd Edit this on Wikidata
Swyddproffwyd, patriarch Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl9 Hydref Edit this on Wikidata
TadTerah Edit this on Wikidata
MamAmasla Edit this on Wikidata
PriodSarah, Hagar, Cetura Edit this on Wikidata
PlantIshmael, Isaac, Simran, Jocsan, Medan, Midian, Isbac, Sua, Bakol Edit this on Wikidata
PerthnasauSarah Edit this on Wikidata

Ystyrir Abraham, Hebraeg: אַבְרָהָם, "Avraham", Arabeg: ابراهيم "Ibrahim", fel ffigwr allweddol gan dair crefydd, Iddewiaeth, Cristnogaeth ac Islam, a elwir am hynny yn grefyddau Abrahamig.

Ei enw yn wreiddiol oedd Abram (Hebraeg: אַבְרָם, ond newidiodd ei enw i Abraham yn ddiweddarach yn ei fywyd. Roedd yn fab i Terah, ac roedd ganddo frodyr o'r enw Nahor a Haran. Yn ôl Llyfr Genesis, Ganed ef yn Ur y Chaldeaid ym Mesopotamia, ond galwyd ef gan Dduw i wlad Canaan. Symudodd i Haran, yna gyda'i wraig Sarah a'i nai Lot i Ganaan gyda'i dilynwyr. Yn ddiweddarach ymwahanodd Abraham a Lot, gyda Abraham yn symud i Mamre yn Hebron.

Roedd Sarah yn dal yn ddi-blant, felly rhoddodd ei morwyn Hagar yn wraig arall iddo. Ganwyd mab i Hagar ac Abraham, Ishmael, ond yn ddiweddarach gyrrwyd Sarah ac Ishmael i ffwrdd gan Sarah. Yn draddodiadol, Ishmael yw cyndad yr Arabiaid. Yn ei henaint, cafodd Sarah hefyd fab, Isaac, cyndad yr Iddewon yn ôl traddodiad.

Rai blynyddoedd wedyn, cafodd Abraham orchymyn gan Dduw i aberthi Isaac iddo. Paratôdd Abraham i wneud hynny, ond pan oedd ar fin aberthu ei fab, ymddangosodd angel i'w atal a rhoi dafad iddo i'w aberthu yn lle Isaac. Mae gŵyl Islamig Eid ul-Adha yn dathlu'r digwyddiad yma.

Dywedir i Sarah farw pan oedd tua 127 mlwydd oed, a chael ei chladdu yn Ogof y Patriarchiaid gar Hebron. Gyrrodd Abraham ei was Eliezer i Fesopotamia, i chwilio am wraig i Isaac, a dychwelodd gyda Rebecca. Cymerodd Abraham wraig arall, gordderch o'r enw Keturah, a chafodd chwe mab arall, Zimran, Jokshan, Medan, Midian, Ishbak, a Shuah. Bu farw yn 175 oed, a chladdwyd ef gyda Sarah yn Hebron.

Yn y Coran, dywedir mai Ibrahim ac Ishmael a ailsefydlodd ddinas Mecca ar ôl y Dilyw a chodi'r Kaaba yno.









ApplySandwichStrip

pFad - (p)hone/(F)rame/(a)nonymizer/(d)eclutterfier!      Saves Data!


--- a PPN by Garber Painting Akron. With Image Size Reduction included!

Fetched URL: https://cy.wikipedia.org/wiki/Abraham

Alternative Proxies:

Alternative Proxy

pFad Proxy

pFad v3 Proxy

pFad v4 Proxy