Content-Length: 114026 | pFad | https://cy.wikipedia.org/wiki/Ann_o_Cleves

Ann o Cleves - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Ann o Cleves

Oddi ar Wicipedia
Ann o Cleves
Ganwyd22 Medi 1515, 28 Mehefin 1515 Edit this on Wikidata
Düsseldorf Edit this on Wikidata
Bu farw16 Gorffennaf 1557, 17 Gorffennaf 1557 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Almaen Edit this on Wikidata
Galwedigaethpendefig Edit this on Wikidata
Swyddcymar teyrn Lloegr Edit this on Wikidata
TadJohn III, Duke of Cleves Edit this on Wikidata
MamMaria of Jülich-Berg Edit this on Wikidata
PriodHarri VIII Edit this on Wikidata
PerthnasauMarie Eleonore o Kleve, Mari I, Elisabeth I, Edward VI Edit this on Wikidata
LlinachTŷ La Marck Edit this on Wikidata
llofnod

Y bedwaredd o chwech gwraig Harri VIII, brenin Lloegr, oedd Ann o Cleves (22 Medi 151516 Gorffennaf 1557). Dim ond am chwe mis y parodd y briodas (Ionawr – Gorffennaf, 1540) cyn i Harri ei hysgaru.

Fe'i ganed yn Düsseldorf,[1] yn ferch i Johann III, Dug Cleves, a'i wraig Maria. Priododd Harri ar 6 Ionawr 1540, ym Mhalas Placentia, Greenwich.

Comisiynodd Harri yr arlunydd Hans Holbein yr Ieuaf i beintio llun ohoni (a'i chwaer Amelia) gan fynnu y dylai Hans beintio llun gonest ohoni. Peintiodd ddau lun ac mae'r naill i'w weld yn y Louvre ym Mharis a'r llall yn Amgueddfa Victoria ac Albert, Llundain. Arwyddwyd y cytundeb priodasol yn Hydref 1539, wedi i Harri glywed fod Ann yn ferch dawel a oedd yn hoff iawn o chwarae cardiau a gwnïo. Cyfarfu'r ddau ar Ddydd Calan 1540, ac ym marn Harri, doedd hi ddim hanner mor ddel, ni allai ddarllen Saesneg ac nid oedd wedi derbyn addysg ffurfiol: She is nothing so fair as she hath been reported, dywedodd.[2] Ymbiliodd Harri i Thomas Cromwell ddarganfod ffordd o beidio'i phriodi, heb droi'r Almaen yn eu herbyn.

Gan na chysgodd y ddau gyda'i gilydd ni choronwyd hi'n llwyr a galwyd hi'n 'Chwaer Annwyl y Brenin' (the King's Beloved Sister). Rhoddwyd setliad ariannol hael iddi a chadwodd ei phen.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. David Williamson (1986). Debrett's Kings and Queens of Britain (yn Saesneg). Salem House. t. 123. ISBN 978-0-88162-213-3.
  2. Schofield, John (2011). The Rise & Fall of Thomas Cromwell: Henry VIII's Most Faithful Servant. t. 361.
Baner Yr AlmaenEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am un o'r Almaen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.








ApplySandwichStrip

pFad - (p)hone/(F)rame/(a)nonymizer/(d)eclutterfier!      Saves Data!


--- a PPN by Garber Painting Akron. With Image Size Reduction included!

Fetched URL: https://cy.wikipedia.org/wiki/Ann_o_Cleves

Alternative Proxies:

Alternative Proxy

pFad Proxy

pFad v3 Proxy

pFad v4 Proxy