Doler Dwyrain y Caribî
Enghraifft o'r canlynol | arian cyfred, legal tender, doler |
---|---|
Dechreuwyd | 1965 |
Rhagflaenydd | British West Indies dollar |
Gwladwriaeth | Antigwa a Barbiwda, Dominica, Grenada, Sant Kitts-Nevis, Sant Lwsia, Sant Vincent a'r Grenadines, Anguilla, Montserrat |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Arian cyfred wyth allan o naw aelod-wladwriaethau yr OECS (Organisation of Eastern Caribbean States) yw doler Dwyrain y Caribî (Saesneg: East Caribbean dollar) (côd: XCD). Mae'n cylchredeg ers 1965 ac yn cael ei gynrychioli fel rheol gan yr arwydd $ neu, weithiau, gan EC$ er mwyn gwahaniaethu rhyngddo a doleri eraill. Rhennir yr EC$ yn 100 cent. Ers 1976 mae wedi bod ynghlwm wrth doler yr Unol Daleithiau gyda chyfradd cyfnewid o US$1 = EC$2.7.
Y gwledydd sy'n defnyddio'r doler fel eu harian cyfred yw:
- Anguilla
- Antigwa a Barbiwda
- Cymanwlad Dominica
- Grenada
- Montserrat
- Sant Kitts-Nevis
- Sant Lwsia
- Sant Vincent a'r Grenadines
Yr unig aelod o'r OECS sy ddim yn ei ddefnyddio yw'r Ynysoedd Morwynol Prydain, sy'n defnyddio doler yr Unol Daleithiau.