Hispaniola
Math | ynys |
---|---|
Poblogaeth | 22,261,005 |
Cylchfa amser | UTC−05:00 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Antilles Fwyaf, West Indies |
Lleoliad | Môr y Caribî |
Gwlad | Gweriniaeth Dominica, Haiti |
Arwynebedd | 76,420 km² |
Uwch y môr | 3,098 metr |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd |
Cyfesurynnau | 19°N 71°W |
Ynys yn y Caribî yw Hispaniola. Hi yw ynys ail-fwyaf y Caribî ar ôl Ciwba, gyda phoblogaeth o tua 17.5 miliwn. Mae wedi ei rhannu rhwng dwy wlad: Haiti yn rhan orllewinol yr ynys a Gweriniaeth Dominica yn ffurfio'r canol a'r dwyrain.
Yr enw brodorol ar yr ynys oedd Quisqueya ("mam yr holl wledydd"). Cyrhaeddodd Christopher Columbus yma ar 5 Rhagfyr 1492, ac enwi'r ynys yn La Española ("Sbaen fechan"), "Hispaniola yn Lladin. Yn 1697, ildiodd Sbaen draean gorllewinol yr ynys i Ffrainc. Galwyd y rhan yma yn Saint-Domingue, a daeth yn Haiti yn ddiweddarach.
Mae arwynebedd Hispaniola yn 76.480 km². Copa uchaf yr ynys yw Pico Duarte, 3,087 medr o uchder.