James Watt
James Watt | |
---|---|
Ganwyd | 19 Ionawr 1736 Greenock |
Bu farw | 25 Awst 1819 Heathfield Hall |
Man preswyl | Glasgow |
Dinasyddiaeth | Yr Alban |
Alma mater | |
Galwedigaeth | peiriannydd, cemegydd, ffisegydd, dyfeisiwr, entrepreneur, mathemategydd, technegydd |
Cyflogwr | |
Prif ddylanwad | Thomas Newcomen |
Tad | James Watt |
Mam | Agnes Muirhead |
Priod | Ann McGrigor, Peggy Miller |
Plant | James Watt, Margaret Watt, Gregory Watt, Janet Watt |
Perthnasau | Robert Watson-Watt |
Gwobr/au | doethur anrhydeddus Prifysgol Glasgow, Scottish Engineering Hall of Fame, Cymrawd Cymdeithas Frenhinol Caeredin |
llofnod | |
Peiriannydd a dyfeisiwr o'r Alban oedd James Watt (19 Ionawr 1736 – 25 Awst 1819). Roedd y gwelliannau a wnaeth ef i'r peiriant ager yn allweddol i'r Chwyldro Diwydiannol.
Ganed James Watt yn Greenock, yn fab i wneuthurwr a pherchennog llongau. Aeth i'r ysgol yn ysbeidiol, ond addysgwyd ef yn bennaf gan ei fam, Agnes. Pan oedd y 18 oed, aeth i Lundain i astudio gwneud offerynnau mesur, yna dychwelodd i'r Alban gan ddechrau gweithdy oddi mewn i Brifysgol Glagow. Priododd Margaret Miller yn 1764, a chwasant bump o blant, cyn iddi hi farw ar enedigaeth plentyn yn 1777. Ail-briododd ag Ann MacGregor.
Bedair blynedd ar ôl agor ei weithdy, dechreuodd Watt arbrofi a pheiriannau ager. Erbyn 1765 roedd ganddo fodel oedd yn gweithio. Cymerodd flynyddoedd i fedru cael fersiwn y gellid ei ddefnyddio ar raddfa fawr, ond yn 1776, dechreuodd y peiriannau cyntaf weithio a thros y blynyddoedd nesaf gwerthwyd nifer fawr ohonynt, yn enwedig i bwmpio dŵr o fwyngloddiau. Parhaodd Watt i ddatblygu a gwella'r peiriant ager dros y blynyddoedd nesaf. Ymddeolodd yn 1800, a phrynodd ystad yng Nghymru yn Noldowlod ger Llanwrthwl; mae ei ddisgynyddion yno o hyd.