Pêl-droed Americanaidd
Gêm yw pêl-droed Americanaidd sy'n boblogaidd iawn yn yr Unol Daleithiau. Mae'n debyg i chwaraeon pêl-droed/rygbi eraill, yn enwedig pêl-droed Canadaidd. Esblygodd pêl-droed Americanaidd o gêm rygbi.[1]
Yn 1880 dechreuwyd gweld yr hollt gyntaf rhwng rygbi ac esblygiad hyn a ddaeth yn Bêl-droed Americanaidd wrth i Walter Camp, capten tîm Prifysgol Yale, ddisodli'r sgarmes am y "line of scrimmage".[2] Yn 1906 mabwysiadwyd yr hawl i chwaraewyr Pêl-droed Americanaid daflu'r bêl ymlaen, gan wahaniaethu eto oddi ar rygbi'r undeb.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Spectators Guide to Rugby" (PDF). New England Rugby. Northeastern University. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2013-05-30. Cyrchwyd 17 Mai, 2015. Check date values in:
|accessdate=
(help) - ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-09-25. Cyrchwyd 2019-09-06.