Prifysgol Rutgers
Math | prifysgol ymchwil gyhoeddus, Colonial Colleges, prifysgol grant tir, sea grant institution |
---|---|
Enwyd ar ôl | Henry Rutgers |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | New Jersey |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Cyfesurynnau | 40.5017°N 74.4481°W |
Prifysgol gyhoeddus a leolir yn nhalaith New Jersey, UDA, yw Prifysgol Rutgers (Saesneg: Rutgers University neu yn llawn Rutgers, The State University of New Jersey). Sefydlwyd yn wreiddiol fel sefydliad preifat, Queens College, ym 1766 gan yr Eglwys Ddiwygiedig Iseldiraidd. Cafodd ei ail-enwi'n Rutgers College ym 1825 ar ôl y dyngarwr Henry Rutgers. Yn sgil Deddf Morrill 1862, rhoddid iddo statws coleg grant tir ac felly'n gymwys i dderbyn cymorthdaliadau gan y llywodraeth, ac ym 1924 daeth y coleg yn brifysgol. Lleolir y prif gampws yn New Brunswick a dau gampws llai yn Newark a Camden.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Rutgers, The State University of New Jersey. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 13 Gorffennaf 2017.
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan swyddogol