Content-Length: 70147 | pFad | https://cy.wikipedia.org/wiki/Coets_fawr

Coets fawr - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Coets fawr

Oddi ar Wicipedia
Coets fawr yn Bafaria yn y 19g (paentiad gan Anton Braith)

Cerbyd pedair olwyn a dynnid gan dîm o hyd at bedwar neu chwech o geffylau harnais oedd y goets fawr. Fe'i defnyddid am deithiau hir ar briffyrdd Prydain a Gorllewin Ewrop o ganol yr 17g hyd at ddyfodiad y rheilffordd. Yr enw Saesneg arni oedd stagecoach, am ei bod yn arfer rhannu'r siwrnai'n gyfres o siwrnau llai. Cedwid ceffylau ar gyfer y goets fawr mewn tafarndai arbennig ar hyd y ffordd a byddai'r gyrwyr yn newid y ceffylau yno. Fel rheol yr oedd gan y goets fawr seddi i chwech y tu mewn iddi a lle i deithwyr tlawd ar ben y to. Roedd y goets yn cario nwyddau a llythyrau hefyd. Cludid y post brenhinol ar y coetsys mawr o 1784 ymlaen yng ngwledydd Prydain.

Cyfnod pwysicaf y goets fawr yn Ewrop oedd y 18g. Roedd yn ffordd anghyfforddus iawn o deithio, yn bennaf oherwydd cyflwr echrydus y ffyrdd yr adeg honno ac oherwydd cynifer y lladron penffordd ar y priffyrdd.

Roedd y goets fawr yn gyfrwng cludiant pwysig yn yr Unol Daleithiau ac Awstralia yn y 19g.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]








ApplySandwichStrip

pFad - (p)hone/(F)rame/(a)nonymizer/(d)eclutterfier!      Saves Data!


--- a PPN by Garber Painting Akron. With Image Size Reduction included!

Fetched URL: https://cy.wikipedia.org/wiki/Coets_fawr

Alternative Proxies:

Alternative Proxy

pFad Proxy

pFad v3 Proxy

pFad v4 Proxy