Neidio i'r cynnwys

Cân i Gymru

Oddi ar Wicipedia
Cân i Gymru
Gwlad/gwladwriaeth Baner Cymru Cymru
Iaith/ieithoedd Cymraeg
Cynhyrchiad
Amser rhedeg 120 munud (yn cynnwys hysbysebion)
Darllediad
Sianel wreiddiol BBC Cymru (1969)
S4C (1983–)
Rhediad cyntaf yn 1969; 56 blynedd yn ôl (1969)
Dolenni allanol
Gwefan swyddogol

Rhaglen deledu a chystadleuaeth cân yw Cân i Gymru a chaiff ei darlledu gan S4C o gwmpas Dydd Gŵyl Dewi. Mae'r cyfansoddwr buddugol yn ennill swm o arian a chael y cyfle i gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd.

Cyflwynwyd Cân i Gymru o dan yr enw 'Cân Disg a Dawn' am y tro cyntaf ym 1969. Ar y pryd roedd Meredydd Evans, pennaeth adloniant ysgafn BBC Cymru yn gobeithio byddai'r gân fuddugol yn gallu cystadlu yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision, er y penderfynodd y BBC yn Llundain yn y diwedd mai dim ond un cân o wledydd Prydain fyddai'n cystadlu.[1]

Darlledwyd wyth rhaglen yn y gyfres i ddewis Cân i Gymru gyda saith cân ymhob un, yn cael eu perfformio gan gantorion adnabyddus y cyfnod. Roedd y cyhoedd yn pleidleisio drwy ddanfon llythyrau i mewn ac roedd y gân gyda'r nifer fwyaf o bleidleisiau yn mynd ymlaen i'r rownd derfynol.[2] Darlledwyd y rhaglen olaf ar 5 Mehefin 1969 drwy wledydd Prydain dan y teitl Song for Wales ac fe'i gyflwynwyd gan Ronnie Williams yn Gymraeg a Saesneg. Roedd panel wedyn yn dewis y gân fuddugol ar y noson. Roedd y rhaglen hefyd yn rhan o ddarpariaeth y BBC ar gyfer arwisgiad Tywysog Siarl a fyddai'n digwydd ar 1 Gorffennaf 1969.[3]

Yn dilyn sefydlu yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon ddechrau'r 70au dechreuodd Pwyllgor Cymru yr Ŵyl y gystadleuaeth 'Cân i Gymru' unwaith eto er mwyn dewis cân i gynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth Celtavision. Doedd yna ddim cystadleuaeth Cân i Gymru yn 1973. I ddechrau doedd gan y cyfryngau yng Nghymru ddim llawer o ddiddordeb yn y gystadleuaeth. Doedd Cân i Gymru ddim yn cael ei darlledu yn fyw ar y teledu, a phanel oedd yn pleidleisio i ddewis enillwyr. Er enghraifft cynhaliwyd cystadleuaeth 1980 ym Mar Cefn yr Angel yn Aberystwyth ac fe'i darlledwyd ar Radio Cymru.

Erbyn 1982 roedd y gystadleuaeth nôl ar y teledu ond panel oedd yn dal i ddewis yr enillydd.

Erbyn hyn caiff y gân fuddugol ei dewis drwy bleidlais lle mae aelodau'r cyhoedd yn ffonio am eu hoff gân. Yn 2019 roedd y wobr yn £5,000 gyda £2,000 am yr ail safle a £1,000 am y trydydd safle. Bydd yr enillydd yn cael y cyfle i fynd ymlaen i gystadlu yn Celtavision, a gynhelir yn Iwerddon fel rhan o'r Ŵyl Ban Geltaidd.

Yn wahanol i'r mwyafrif o gystadlaethau canu yn Ewrop, pwysleisir cyfansoddwr y gân yn hytrach na'r perfformiwr.

Crynodeb o'r rhaglenni

[golygu | golygu cod]
Blwyddyn Nifer y caneuon Cân fuddugol[4] Perfformiwr/wyr Cyfansoddwyr[5][6] Lleoliad Cyflwynwyr Cwmni Cynhyrchu Darlledwr Dyddiad darlledu
1969 Y Cwilt Cymreig Margaret Williams Llifon Hughes-Jones, Megan Lloyd Ellis Caerdydd Ronnie Williams BBC Cymru BBC 1
1970 6 Dydd o Haf Y Canolwyr Hawys James Caerdydd Ronnie Williams BBC Cymru BBC 1 Cymru Wales 23 Mai
1971 6 Nwy yn y Nen Eleri Llwyd Dewi 'Pws' Morris Caerdydd Huw Jones BBC Cymru BBC 1 Cymru Wales 31 Gorffennaf
1972 Pan Ddaw'r Dydd Heather Jones Geraint Jarman Caerdydd BBC Cymru BBC 1 Cymru Wales 1 Mawrth
Dim cystadleuaeth yn 1973
1974 6 I Gael Cymru'n Gymru Rydd Iris Williams Rod Thomas, Rod Gruffydd Caerdydd Dewi 'Pws' Morris BBC Cymru BBC 1 Cymru Wales 1 Mawrth
1975 Caledfwlch Brân (grŵp) Gwyndaf Roberts Caerdydd Hywel Gwynfryn BBC Cymru BBC 1 Cymru Wales 1 Mawrth
1976 Y Llanc Glas Lygad Rhian Rowe Douglas Roberts Caerdydd BBC Cymru BBC 1 Cymru Wales 1 Mawrth
1977 Dafydd ap Gwilym Cawl Sefin Peter Hughes Griffiths, Meinir Lloyd Caerdydd Gwyn Erfyl HTV HTV 1 Mawrth
1978 Angel Ble Wyt Ti Delwyn Siôn a Brân John Gwyn, Ronw Protheroe Caerdydd BBC Cymru BBC 1 Cymru Wales 1 Mawrth
1979 Ni Welaf yr Haf Pererin (grwp) Arfon Wyn Caerdydd Arfon Haines Davies HTV HTV 1 Mawrth
1980 5 Golau Tan Gwmwl Plethyn Geraint Lovgreen, Myrddin ap Dafydd Aberystwyth Emyr Wyn a Mynediad am Ddim

(Darllediad Radio yn unig)

BBC Cymru BBC Radio Cymru 1 Mawrth
1981 6 Dechrau'r Dyfodol Beca Gareth Glyn, Eleri Cwyfan Yr Wyddgrug Gwyn Erfyl HTV HTV
1982 5 Nid Llwynog Oedd yr Haul Caryl Parry Jones a Bando Geraint Lovgreen, Myrddin ap Dafydd Caerdydd Menna Gwyn ac Emyr Wyn BBC Cymru S4C 1 Mawrth
1983 6 Popeth Ond Y Gwir Linda Healy a Cleif Harpwood Siân Wheway, Robin Gwyn Caerdydd Emyr Wyn BBC Cymru S4C 1 Mawrth
1984 5 Y Cwm Geraint Griffiths Huw Chiswell Caerdydd Emyr Wyn BBC Cymru S4C 1 Mawrth
1985 6 Ceiliog y Gwynt Bwchadanas Euros Rhys Evans Caerdydd Emyr Wyn BBC Cymru S4C 1 Mawrth
1986 6 Be Ddylwn i Ddweud Eirlys Parri Mari Emlyn Caerdydd Margaret Williams BBC Cymru S4C 1 Mawrth
1987 8 Gloria Tyrd Adre Eryr Wen Euros Elis Jones, Llion Jones Llandudno Caryl Parry Jones Teledu'r Tir Glas S4C 15 Mawrth
1988 8 Can Wini Manon Llwyd Manon Llwyd, Eurig Wyn Llandudno Geraint Griffiths Teledu'r Tir Glas S4C 13 Mawrth
1989 8 Twll Triongl Hefin Huws Hefin Huws, Les Morrison Llandudno Nia Roberts Teledu'r Tir Glas S4C 19 Mawrth
1990 8 Gwlad y Rasta Gwyn Sobin a'r Smaeliaid Rhys Wyn Parry, Bryn Fôn Alaw Bennett Jones ac Owain Gwilym Teledu'r Tir Glas S4C 15 Mawrth
1991 8 Yr Un Hen Lle Neil Williams a'r Band Richard Marks Caernarfon Nia Roberts Teledu'r Tir Glas S4C 2 Mawrth
1992 7 Dal i Gredu Eifion Williams Gwennant Pyrs, Meleri Roberts, Alwen Derbyshire Caernarfon Nia Roberts Teledu'r Tir Glas S4C 18 Ebrill
1993 8 Y Cam Nesa Paul Gregory Paul Gregory Caernarfon Nia Roberts Teledu'r Tir Glas S4C 10 Ebrill
1994 8 Rhyw Ddydd Geraint Griffiths Paul Gregory, Lorraine King, Tim Hamill, Dave Parsons Caerdydd Nia Roberts a Stifyn Parri HTV S4C 1 Mawrth
1995 8 Yr Ynys Werdd Gwenda Owen Richard Jones, Arwel John Pontrhydfendigaid Nia Roberts Apollo S4C 1 Mawrth
1996 8 Cerrig yr Afon Iwcs a Doyle Iwan Roberts, John Doyle Pontrhydfendigaid Nia Roberts Apollo S4C 1 Mawrth
1997 8 Un Funud Fach Bryn Fôn Barry Jones Ponthydfendigaid Nia Roberts Apollo S4C 1 Mawrth
1998 8 Rho Dy Law Arwel Wyn Roberts Rhodri Tomos Caerdydd Nia Roberts Apollo S4C 28 Chwefror
1999 8 Torri'n Rhydd Steffan Rhys Williams Matthew McAvoy, Steffan Rhys Williams Corwen Dafydd Du a Nia Roberts Apollo S4C 1 Mawrth
2000 8 Cae o Ŷd Martin Beattie Arfon Wyn Llangollen Dafydd Du a Nia Roberts Apollo S4C 1 Mawrth
2001 Dagrau Ddoe Geinor Haf Emlyn Dole Llangollen Dafydd Du a Nia Roberts Apollo S4C 1 Mawrth
2002 Harbwr Diogel Elin Fflur Arfon Wyn, Richard Synnott Port Talbot Lisa Gwilym ac Angharad Llwyd Apollo S4C 1 Mawrth
2003 16 Oes Lle i Mi Non Parry & Steffan Rhys Williams Emma Walford, Mererid Hopwood Port Talbot Lisa Gwilym ac Angharad Llwyd Apollo S4C 1 Mawrth
2004 16 Dagrau Tawel Rhian Mair Lewis Meinir Richards. Tudur Dylan Casnewydd Sarra Elgan a Dafydd Du Apollo S4C 1 Mawrth
2005 Mi Glywais Rhydian Bowen Philips Dafydd Jones, Guto Vaughan Casnewydd Sarra Elgan ac Alun Williams Apollo S4C 1 Mawrth
2006 9 Llii'r Nos Ryland Teifi Ryland Teifi Port Talbot Sarra Elgan a Hefin Thomas Avanti S4C 1 Mawrth
2007 9 Blwyddyn Mas Einir Dafydd Einir Dafydd, Ceri Wyn Jones Port Talbot Sarra Elgan a Hefin Thomas Avanti S4C 2 Mawrth
2008 9 Atgofion Aled Myrddin Aled Myrddin Port Talbot Sarra Elgan a Rhydian Bowen Phillips Avanti S4C 29 Mawrth
2009 8 Gofidiau Elfed Morgan Morris Lowri Watcyn Roberts, Elfed Morgan Morris Llandudno Sarra Elgan a Rhodri Owen Avanti S4C 1 Mawrth
2010 8 Bws i'r Lleuad Tomos Wyn Alun Evans Llandudno Sarra Elgan a Rhodri Owen Avanti S4C 28 Chwefror
2011 8 Rhywun yn Rhywle Tesni Jones Steve Balsamo, Ynyr Gruffydd Pontrhydfendigaid Elin Fflur a Dafydd Du Avanti S4C 6 Mawrth
2012 8 Braf yw Cael Byw Gai Toms Gai Toms, Philip Jones Pontrhydfendigaid Elin Fflur a Dafydd Du Avanti S4C 1 Mawrth
2013 6 Mynd I Gorwen Hefo Alys Jessop a'r Sgweiri Rhys Gwynfor, Osian Huw Williams Caerdydd Elin Fflur a Dafydd Du Avanti S4C 1 Mawrth
2014 6 Galw Amdanat Ti Mirain Evans Barry Evans, Mirain Evans[7] Gwalchmai Elin Fflur a Gethin Evans Avanti S4C 28 Chwefror
2015 8 Y Lleuad a'r Sêr Elin Angharad Elin Angharad, Arfon Wyn[8] Gwalchmai Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris Avanti S4C 7 Mawrth
2016 8 Dim Ond Un Cordia Ffion Elin, Rhys Jones[9] Caerdydd Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris Avanti S4C 5 Mawrth
2017 10 Rhydd Cadi Gwyn Edwards Cadi Gwyn Edwards[10] Caerdydd Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris Avanti S4C 11 Mawrth
2018 8 Cofio Hedd Wyn Ceidwad y Gân Erfyl Owen[11] Bangor Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris Avanti S4C 1 Mawrth
2019 8 Fel Hyn 'da Ni Fod Elidyr Glyn Elidyr Glyn[12] Aberystwyth Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris Avanti S4C 6 Mawrth
2020 8 Cyn i’r Llenni Gau Gruffydd Wyn Gruffydd Wyn[13] Aberystwyth Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris Avanti S4C 29 Chwefror
2021 8 Bach o Hwne Morgan Elwy Williams Morgan Elwy Williams[14] Theatr Donald Gordon, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris Avanti S4C 5 Mawrth
2022 8 Mae yna Le Ryland Teifi Rhydian Meilir[15] Aberystwyth Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris Avanti S4C 4 Mawrth
2023 8 Patagonia Dylan Morris Alistair James[16] Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris Avanti S4C 3 Mawrth
2024 8 Ti Sara Davies Sara Davies[17] Arena Abertawe Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris Avanti S4C 1 Mawrth

Mae nifer o gyfansoddwyr wedi bod yn fuddugol mwy nag unwaith, gan gynnwys Arfon Wyn. Ymhlith y caneuon poblogaidd a ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth y mae Gwin Beaujolais (cân).

Y goreuon, yn ôl gwylwyr S4C, 2016

[golygu | golygu cod]

Ym Mawrth 2016 cynhaliodd S4C bleidlais o'r holl enillwyr ers 1982, a'r 7 uchaf oedd:

  • 7fed: Cerrig Oer yr Afon - Iwcs a Doyle
  • 6ed: Dagrau Tawel - Rhian Mair Lewis
  • 5ed: Galw Amdanat Ti - Mirain a Barry Evans
  • 4ydd: Harbwr Diogel - Arfon Wyn
  • 3ydd: Y Cwm - Geraint Griffiths yn canu; Chiswell y cyfansoddwr
  • 2il: Gofidiau - Elfed Morgan Morris
  • 1af: Torri'n Rhydd - Steffan Rhys Williams
Y grŵp gwerin 'Cilmeri' yn perfformio yng nghystadleuaeth Cân i Gymru yn 1975. Daethant yn ail i'r grwp Brân a gannodd 'Caledfwlch'. Yn y llun: Elwyn Rowlands, Robin Owain a Huw Roberts.

Dychan

[golygu | golygu cod]

Mae'r gystadleuaeth wedi bod yn destun dychan ar hyd y blynyddoedd. Ar gyfer Cân i Gymru 2019 cafwyd sgetch ddychan gan DJ Bry ar sianel ar-lein Hansh S4C, "Tips Bry ar Shwt i Ennill Cân i Gymru".[18]

Twitter

[golygu | golygu cod]

Mae sylwadau o gefnogaeth, anghytuno a dychan ar y sioe ar Twitter yn boblogaidd iawn adeg darllediad y rhaglen yn fyw ar S4C. Mae'r hashnod #CiG2019 (neu'r flwyddyn gyfredol) yn 'trendio' ar Twitter ar draws Brydain adeg cyfnod y darllediad byw.[19]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Can i Gymru Gwefan UKGameshows. Adalwyd ar 05-12-2010
  2. Lle oeddwn i: Margaret Williams, Cân i Gymru 1969 , BBC Cymru Fyw, 1 Mawrth 2019.
  3. (Saesneg) Genome - SONG FOR WALES. BBC.
  4. Archif Cân i Gymru ar S4C
  5. (Saesneg) Cân i Gymru: Y Casgliad Cyflawn 1969–2005. MusicBrainz.
  6.  S4C yn agor Pôl Cân i Gymru fel rhan o ddathliadau Dydd Miwsig Cymru. S4C (2 Chwefror 2016). Adalwyd ar 6 Mawrth 2016.
  7. "Barry a Mirain Evans yn ennill Cân i Gymru 2014". BBC Cymru Fyw. 2014-02-28. Cyrchwyd 2023-03-04.
  8. "Cân i Gymru: Y Lleuad a'r Sêr ar y brig". BBC Cymru Fyw. 2015-03-08. Cyrchwyd 2023-03-04.
  9. "Band ifanc o Fôn yn ennill Cân i Gymru". BBC Cymru Fyw. 2016-03-06. Cyrchwyd 2023-03-04.
  10. "Cantores ifanc o Lanrwst yn ennill Cân i Gymru". BBC Cymru Fyw. 2017-03-12. Cyrchwyd 2023-03-04.
  11. "Erfyl Owen o ardal Rhuthun yn ennill Cân i Gymru". BBC Cymru Fyw. 2018-03-01. Cyrchwyd 2023-03-04.
  12. "Elidyr Glyn yn ennill Cân i Gymru 2019". BBC Cymru Fyw. 2019-03-01. Cyrchwyd 2023-03-04.
  13. "Gruffydd Wyn yn ennill Cân i Gymru 2020". BBC Cymru Fyw. 2020-03-01. Cyrchwyd 2023-03-04.
  14. "Morgan Elwy Williams yn ennill Cân i Gymru 2021". BBC Cymru Fyw. 2021-03-05. Cyrchwyd 2023-03-04.
  15. "Mae yna Le gan Rhydian Meilir yn ennill Cân i Gymru 2022". BBC Cymru Fyw. 2022-03-04. Cyrchwyd 2023-03-04.
  16. "Patagonia yn ennill cystadleuaeth Cân i Gymru 2023". BBC Cymru Fyw. 2023-03-03. Cyrchwyd 2023-03-04.
  17. "Sara Davies yn ennill Cân i Gymru 2024". BBC Cymru Fyw. 2024-03-01. Cyrchwyd 2024-03-01.
  18. https://www.youtube.com/watch?v=SwmyLol-zl8
  19. https://twitter.com/canigymru/status/1101589319956025345/
pFad - Phonifier reborn

Pfad - The Proxy pFad of © 2024 Garber Painting. All rights reserved.

Note: This service is not intended for secure transactions such as banking, social media, email, or purchasing. Use at your own risk. We assume no liability whatsoever for broken pages.


Alternative Proxies:

Alternative Proxy

pFad Proxy

pFad v3 Proxy

pFad v4 Proxy