Neidio i'r cynnwys

Microdon

Oddi ar Wicipedia
Microdon
Mathton electromagnetig Edit this on Wikidata
Rhan osbectrwm electromagnetig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Math o ymbelydredd electromagnetig yw microdon. Fel arfer mae gan microdonnau donfeddi rhwng tua 30 cm ac 1 mm, sy'n cyfateb i amleddau rhwng 1 GHz a 300 GHz. Fodd bynnag, nid yw'r amrediad hwn wedi'i ddiffinio'n llym: mae meysydd astudio gwahanol yn defnyddio eu ffiniau eu hunain i wahaniaethu rhwng microdonnau ac isgoch pell, ymbelydredd terahertz, a thonnau radio UHF.[1][2][3][4][5][6]

Mae microdonnau'n dilyn llwybr sy'n debyg i donnau golau, hynny yw llinell syth. Yn wahanol i donnau radio ag amledd is, nid ydynt yn diffreithio o amgylch bryniau, nid ydynt yn dilyn wyneb y ddaear, ac nid ydynt yn adlewyrchu o'r ionosffer. Felly pan ddefnyddir microdonnau fel cyfrwng cyfathrebu, mae'r pellter y maent yn ei deithio yn cael ei gyfyngu gan y gorwel gweledol (tua 40 milltir, 64 km). Ar amleddau uchel, maent yn cael eu hamsugno gan nwyon yn yr atmosffer, gan gyfyngu ar bellteroedd cyfathrebu ymarferol i tua 1 km.

Defnyddir microdonnau'n helaeth mewn technoleg fodern, er enghraifft mewn radar, radio-seryddiaeth, rhwydweithiau cyfnewid radio microdon, cysylltiadau cyfathrebu pwynt-i-bwynt, rhwydweithiau diwifr, cyfathrebu lloeren, triniaethau meddygol, gwresogi diwydiannol, ac ar gyfer coginio bwyd mewn poptai microdon.[7]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Hitchcock, R. Timothy (2004). Radio-frequency and Microwave Radiation. American Industrial Hygiene Assn. t. 1. ISBN 978-1931504553.
  2. Kumar, Sanjay; Shukla, Saurabh (2014). Concepts and Applications of Microwave Engineering. PHI Learning Pvt. Ltd. t. 3. ISBN 978-8120349353.
  3. Jones, Graham A.; Layer, David H.; Osenkowsky, Thomas G. (2013). National Association of Broadcasters Engineering Handbook, 10th Ed. Taylor & Francis. t. 6. ISBN 978-1136034107.
  4. Pozar, David M. (1993). Microwave Engineering Addison–Wesley Publishing Company. ISBN 0-201-50418-9. (Saesneg)
  5. Sorrentino, R. and Bianchi, Giovanni (2010) Microwave and RF Engineering, John Wiley & Sons, p. 4, ISBN 047066021X.(Saesneg)
  6. "Electromagnetic radiation - Microwaves, Wavelengths, Frequency | Britannica". www.britannica.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 15 Awst 2023.
  7. "Microwave Oven". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). 26 Hydref 2018. Cyrchwyd 19 Ionawr 2019.
pFad - Phonifier reborn

Pfad - The Proxy pFad of © 2024 Garber Painting. All rights reserved.

Note: This service is not intended for secure transactions such as banking, social media, email, or purchasing. Use at your own risk. We assume no liability whatsoever for broken pages.


Alternative Proxies:

Alternative Proxy

pFad Proxy

pFad v3 Proxy

pFad v4 Proxy