Galateg
Galateg neu Galataeg oedd iaith y Celtiaid oedd yn byw yn Asia Leiaf yn y cyfnod rhwng tua 250 CC ac OC400, sef y Galatiaid. Mae'r dystiolaeth amdani'n deillio'n gwfangwbl bron o eiriau ac enwau Galateg sydd i'w cael yng ngwaith awduron Clasurol. Mae'n ymddangos ei bod yn iaith debyg iawn i Aleg, iaith Celtiaid Gâl.
Math o gyfrwng | extinct language, iaith yr henfyd |
---|---|
Math | Celteg y Cyfandir |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-3 | xga |
Mae ei hanes yn dywyll ond ymddengys ei bod hi'n iaith fyw hyd y 3g neu'r 4g. Erbyn hynny roedd Galatia yn dalaith o'r Ymerodraeth Rufeinig. Mae Sant Jerome, er enghraifft, yn cyfeirio ati ac yn dweud ei bod yn debyg iawn i iaith trigolion dinas Trier, er nad oes sicrwydd ei fod yn siarad o brofiad personol: "Galatias... propriam linguam eandem habere quam Treviros" ("Mae gan y Galatiaid eu hiaith eu hunain sydd fel iaith pobl Trier").