Coleg normal
Gwedd
(Ailgyfeiriad o Coleg Normal)
Math o goleg addysg uwch a sefydlwyd yn wreiddiol er mwyn hyfforddi athrawon yw coleg normal (Ffrangeg: école normale; Saesneg normal college neu normal school). Amcan y colegau normal oedd sefydlu safonau dysgu, sy'n esbonio'r enw (h.y. "normaleiddio" neu safoni).
Sefydlwyd y coleg cyntaf o'r fath yn Ffrainc yn 1685, gan Saint John Baptist de La Salle, yn ninas Reims, wrth yr enw École Normale (Ysgol Normal neu Safonol), er mwyn hyfforddi athrawon. Yng Nghymru ceir Coleg Normal, Bangor ("Y Coleg Normal" ar lafar), lle cafodd cenedlaethau o athrawon Cymreig eu hyfforddiant (a hynny, tan y 1970au, trwy gyfrwng y Saesneg yn unig, er bod trwch y darpar athrawon yn Gymry Cymraeg).