Content-Length: 103298 | pFad | http://cy.wikipedia.org/wiki/Baner_Laos

Baner Laos - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Baner Laos

Oddi ar Wicipedia
Baner Laos

Baner drilliw lorweddol gyda stribedi uwch ac is coch a stribed canol glas gyda chylch gwyn yn ei ganol yw baner Laos. Mae coch yn symboleiddio'r gwaed a gollwyd yn y frwydr am ryddid, glas yn cynrychioli cyfoeth, a gwyn yn symboleiddio undod o dan gomiwnyddiaeth. Dywedir hefyd bod y ddisg wen ar stribed glas yn cynrychioli lleuad lawn dros Afon Mekong.

Mabwysiadwyd ar 2 Rhagfyr 1975 pan ddaeth y wlad yn weriniaeth i'r bobl. Mae'n anghyffredin fel baner gwlad gomiwnyddol gan nad yw'n cynnwys y seren bum-pwynt.

Ffynonellau

[golygu | golygu cod]
  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)
Eginyn erthygl sydd uchod am Laos. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato








ApplySandwichStrip

pFad - (p)hone/(F)rame/(a)nonymizer/(d)eclutterfier!      Saves Data!


--- a PPN by Garber Painting Akron. With Image Size Reduction included!

Fetched URL: http://cy.wikipedia.org/wiki/Baner_Laos

Alternative Proxies:

Alternative Proxy

pFad Proxy

pFad v3 Proxy

pFad v4 Proxy