Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi
Enghraifft o'r canlynol | adran anweinidogol o'r llywodraeth |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 18 Ebrill 2005 |
Pennaeth y sefydliad | First Permanent Secretary and Chief Executive of HM Revenue and Customs |
Prif weithredwr | Jim Harra |
Rhagflaenydd | Inland Revenue, HM Customs and Excise |
Pencadlys | Government Offices Great George Street |
Gwefan | http://www.hmrc.gov.uk |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (talfyrir hefyd i Cyllid a Thollau EF neu CThEF;[1] Saesneg: His Majesty's Revenue and Customs; HM Revenue and Customs, HMRC[2]) yn adran anweinidogol o Lywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n gyfrifol am gasglu trethi, talu rhai mathau o gymorth gwladwriaethol a gweinyddu cyfundrefnau rheoleiddio eraill, gan gynnwys yr isafswm cyflog cenedlaethol. Noder bod teitl y corff yn gweld newid y gair "Mawrhydi" i "Fawrhydi" i gydnabod mai'r Charles III yw Brenin y Deyrnas Uniedig ers Mai 2023.[3]
Ffurfio
[golygu | golygu cod]Ffurfiwyd CThEM o ganlyniad i uno Cyllid y Wlad ('Inland Revenue') a Thollau Tramor a Chartref EM ('HM Customs and Excise'), a ddaeth i rym yn swyddogol ar 18 Ebrill 2005.[4] Logo'r adran gyda Coron y Tuduriaid o'i chwmpas.
Cyhoeddwyd uno Cyllid y Wlad a Thollau Tramor a Chartref EM gan Ganghellor y Trysorlys ar y pryd Gordon Brown yn y gyllideb ar 17 Mawrth 2004. Cyhoeddwyd enw’r adran newydd a’i chadeirydd gweithredol cyntaf, David Varney, ar 9 Mai 2004 Ymunodd Varney â’r adran eginol ym mis Medi 2004, a dechreuodd staff symud o Somerset House a New Kings Beam House i adeilad pencadlys newydd CThEM yn 100 Parliament Street yn Whitehall ar 21 Tachwedd 2004.
Crëwyd y coron yma ar ddechrau'r 16g ar gyfer naill ai Harri VII neu Harri VIII, brenhinoedd Tuduraidd cyntaf Lloegr, ac a ddinistriwyd ym 1649 yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr.
Cyfrifoldebau Adrannol
[golygu | golygu cod]Mae'r adran yn gyfrifol am weinyddu a chasglu trethi uniongyrchol, gan gynnwys treth incwm, treth gorfforaeth, treth enillion cyfalaf a threth etifeddiaeth, trethi anuniongyrchol, gan gynnwys treth ar werth, tollau ecséis a threth stamp, a threthi amgylcheddol, megis y Teithiwr Awyr. Ardoll Gwasanaeth a'r Ardoll Newid Hinsawdd (CCL).
Strwythur y llywodraeth
[golygu | golygu cod]Mae Bwrdd y Cyfarwyddwyr yn cynnwys aelodau o'r Pwyllgor Gweithredol a chyfarwyddwyr anweithredol. Ei brif rôl yw datblygu a chymeradwyo strategaeth gyffredinol CThEM, cymeradwyo cynlluniau busnes terfynol a chynghori'r Prif Weithredwr ar brif benodiadau. Mae hefyd yn rhoi sicrwydd ac yn cynghori ar arfer gorau.
Gweinidog y Trysorlys sy’n gyfrifol am CThEM yw Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys, Jesse Norman.[5]
Gwasanaeth Gymraeg
[golygu | golygu cod]Ceir darpariaeth iaith Gymraeg gan Gyllid a Thollau.[6] Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth ar-lein yn y Gymraeg a hefyd gwasanaeth ffôn yn Gymraeg i drethdalwyr. Yn 2020 bu i dros 20,000 o bobl ffonio swyddfeydd treth Cymru ym Mhorthmadog a Chaerdydd i gael cyngor yn Gymraeg. Nodwyd hefyd yn 2019 i'r gwasanaeth gyfieithu dros 1.5 miliwn o eiriau.[7]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwasanaethau Cyllid a Thollau EF yn y Gymraeg gwefan swyddogol
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Cyllid a Thollau EF". Gwefan CThEF. Cyrchwyd 16 Hydref 2024.
- ↑ "Her Majesty's Revenue and Customs". Commissioners for Revenue and Customs Act 2005. legislation.gov.uk. Cyrchwyd 5 Awst 2012.
- ↑ "Coroni y Brenin Charles III yn Abaty Westminster". Newyddion S4C. 6 Mai 2023.
- ↑ "HM Revenue and Customs: About Us". Hmrc.gov.uk. 18 Ebrill 2005. Cyrchwyd 21 Mehefin 2009.
- ↑ "Norman replaces Stride as financial secretary to Treasury". Accountancy Daily. Cyrchwyd 27 Mawrth 2020.
- ↑ "Cyllid a Thollau EF". Gwefan CThEF. Cyrchwyd 16 Hydref 2024.
- ↑ "Tros 20,000 yn ffonio i gael cyngor am drethi yn Gymraeg". Golwg360. 2020. Cyrchwyd 16 Hydref 2024.