Content-Length: 147171 | pFad | http://cy.wikipedia.org/wiki/Cynghrair_Europa_UEFA

Cynghrair Europa UEFA - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Cynghrair Europa UEFA

Oddi ar Wicipedia
Cynghrair Europa UEFA
Ffurfiwyd1971 (2009 yn ei ffurf bresennol)
ArdalUEFA (Ewrop)
Nifer o dimau48 (rownd y grwpiau)
+8 clwb yn ymuno yn dilyn grwpiau Cynghrair y Pencampwyr
160 (cyfanswm)
PresennolBaner Yr Eidal Atalanta (1af tro)
Clybiau mwyaf llwyddiannusBaner Sbaen Sevilla
(4 pencampwriaeth)
GwefanGwefan swyddogol

Cystadleuaeth bêl-droed flynyddol i glybiau pêl-droed Ewrop sy'n cael ei threfnu gan UEFA yw Cynghrair Europa UEFA. Mae clybiau yn sicrhau eu lle yn y gystadleuaeth ar sail eu perfformiadau yn eu cynghreiriau a chwpanau cenedlaethol.

Fe'i hadnabyddwyd fel Cwpan UEFA tan 2009-10[1] pan ad-drefnwyd y gystadleuaeth. Mae UEFA yn ystyried Cwpan UEFA a Chynghrair Europa UEFA i fod yr un gystadleuaeth.[2].

Ym 1999 cafodd Cwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop UEFA ei diddymu gydag enillwyr cwpanau cymdeithasau Ewrop yn sicrhau eu lle yng Nghwpan UEFA o 2000-01 ymlaen[1] ac ers yr ailfrandio yn 2009, mae Tlws Intertoto UEFA hefyd wedi ei ddiddymu gyda'r gystadleuaeth yn cael ei huno gyda Chynghrair Europa.

Mae enillwyr Cynghrair Europa yn sicrhau eu lle yn rownd derfynol Super Cup UEFA ac ers 2014-15 mae'r enillwyr hefyd yn sicrhau eu lle yng Nghynghrair y Pencampwyr UEFA ar gyfer y tymor canlynol.

Mae'r tlws wedi ei godi gan 27 o glybiau gwahanol gyda 12 o'r rhain yn ennill y gystadleuaeth ar fwy nag un achlysur. Sevilla yw'r clwb mwyaf llwyddiannus ar ôl ennill y gystadleuaeth ar bedair achlysur[3]

Cymerodd Gwpan UEFA le'r Inter-Cities Fairs Cup ym 1971 gyda Tottenham Hotspur yn codi'r tlws cyntaf un ar ôl trechu Wolverhampton Wanderers dros ddau gymal yn y rownd derfynol. Parhaodd y gystadleuaeth i gael ei chwarae dros ddwy gymal hyd nes 1997-98 pan benderfynwyd cynnal y rownd derfynol ar faes niwtral a llwyddodd Internazionale i drechu Lazio 3-0 ar faes Parc des Princes, Paris.

Enillwyr

[golygu | golygu cod]
Clwb Enillwyr Ail Blynyddoedd buddugol Blynyddoedd ail
Baner Yr Eidal Juventus 3 1 1977, 1990, 1993 1995
Baner Yr Eidal Internazionale 3 1 1991, 1994, 1998 1997
Baner Lloegr Lerpwl 3 0 1973, 1976, 2001
Baner Sbaen Sevilla 3 0 2006, 2007, 2014
Baner Yr Almaen Borussia Mönchengladbach 2 2 1975, 1979 1973, 1980
Baner Lloegr Tottenham Hotspur 2 1 1972, 1984 1974
Baner Yr Iseldiroedd Feyenoord 2 0 1974, 2002
Baner Sweden IFK Göteborg 2 0 1982, 1987
Baner Sbaen Real Madrid 2 0 1985, 1986
Baner Yr Eidal Parma 2 0 1995, 1999
Baner Portiwgal Porto 2 0 2003, 2011
Baner Sbaen Atlético Madrid 2 0 2010, 2012
Baner Gwlad Belg Anderlecht 1 1 1983 1984
Baner Yr Iseldiroedd PSV Eindhoven 1 0 1978
Baner Yr Almaen Eintracht Frankfurt 1 0 1980
Baner Lloegr Ipswich Town 1 0 1981
Baner Yr Almaen Bayer Leverkusen 1 0 1988
Baner Yr Eidal Napoli 1 0 1989
Baner Yr Iseldiroedd Ajax 1 0 1992
Baner Yr Almaen Bayern Munich 1 0 1996
Baner Yr Almaen Schalke 04 1 0 1997
Baner Twrci Galatasaray 1 0 2000
Baner Sbaen Valencia 1 0 2004
Baner Rwsia CSKA Moscow 1 0 2005
Baner Rwsia Zenit St. Petersburg 1 0 2008
Baner Wcráin Shakhtar Donetsk 1 0 2009
Baner Lloegr Chelsea 1 0 2013

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 "Uefa Cup given new name in revamp". 2008-09-26. Unknown parameter |published= ignored (help)
  2. "New format provides fresh impetus". Unknown parameter |published= ignored (help)
  3. "Sevilla out on their own in all-time standings". Unknown parameter |published= ignored (help)








ApplySandwichStrip

pFad - (p)hone/(F)rame/(a)nonymizer/(d)eclutterfier!      Saves Data!


--- a PPN by Garber Painting Akron. With Image Size Reduction included!

Fetched URL: http://cy.wikipedia.org/wiki/Cynghrair_Europa_UEFA

Alternative Proxies:

Alternative Proxy

pFad Proxy

pFad v3 Proxy

pFad v4 Proxy