Llanefydd
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 590, 546 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 3,074.11 ha |
Cyfesurynnau | 53.223°N 3.527°W |
Cod SYG | W04000128 |
Cod OS | SH981706 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Darren Millar (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | David Jones (Ceidwadwr) |
Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Llanefydd[1] neu Llannefydd.[2] Roedd yn rhan o Sir Ddinbych cynt. Mae'n bentref bychan a leolir tua 5 milltir i'r gogledd-orllewin o dref Dinbych a thua'r un pellter i'r de-orllewin o Lanelwy.
Ceir dau sant ac un santes o'r enw Nefydd, i gyd yn perthyn i linach Brychan Brycheiniog, ond nid oes sicrwydd pa un ohonynt yw nawddsant y plwyf. Ceir Ffynnon Nefydd 300m o'r eglwys.
Tua milltir i gyfeiriad y gogledd-orllewin ceir Mynydd y Gaer a goronir gan fryngaer.
Enwogion y fro
[golygu | golygu cod]Ceir tystiolaeth ddibynadwy fod Ithel Goch, tad y bardd enwog Iolo Goch, wedi ymsefydlu ar dir yn Llechwedd a Berain, yn y plwyf, ar ôl gorfod symud o Lewenni, ger Dinbych, mewn canlyniad i bolisi'r awdurdodau Seisnig o orfodi'r Cymry i symud o gyffiniau'r dref honno er mwyn sefydlu Saeson yn eu lle. Mae'n eithaf tebyg y bu gan Iolo Goch ei hun dŷ yn Llechwedd.[3]
Mae'r plwyf yn cynnwys Cefn Berain, lle ganed Catrin o Ferain, "Mam Cymru", chwedl ei chyfoeswyr, ac yma yn yr eglwys leol y claddwyd hi; mae'r bedd, bellach, ar goll.
Ganwyd yr anterliwtwr enwog Twm o'r Nant ym Mhenparchell Uchaf yn y plwyf yn 1739.
Henebion
[golygu | golygu cod]Mae Crug Moel Fodiar, fel mae'r enw'n ei awgrymu ar Foel Fodiar, rhwng Cefn Berain a Llansannan; dwy km i'r de o Lannefydd. Crug crwn ydy o wedi'i godi gan bobl Oes Newydd y Cerrig neu Oes yr Efydd fel rhan o'u seremonïau neu i gladdu'r meirw.
Cyfrifiad 2011
[golygu | golygu cod]Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 20 Tachwedd 2021
- ↑ Dafydd Johnston, Iolo Goch (Cyfres Llên y Llenor, 1989.
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Trefi
Abergele · Bae Colwyn · Betws-y-Coed · Conwy · Cyffordd Llandudno · Degannwy · Hen Golwyn · Llandudno · Llanfairfechan · Llanrwst · Penmaenmawr · Tywyn
Pentrefi
Bae Cinmel · Bae Penrhyn · Betws-yn-Rhos · Bryn-y-maen · Bylchau · Caerhun · Capel Curig · Capel Garmon · Cefn Berain · Cefn-brith · Cerrigydrudion · Craig-y-don · Cwm Penmachno · Dawn · Dolgarrog · Dolwen · Dolwyddelan · Dwygyfylchi · Eglwys-bach · Esgyryn · Gellioedd · Glanwydden · Glasfryn · Groes · Gwytherin · Gyffin · Henryd · Llanbedr-y-cennin · Llandrillo-yn-Rhos · Llanddoged · Llanddulas · Llanefydd · Llanelian-yn-Rhos · Llanfair Talhaearn · Llanfihangel Glyn Myfyr · Llangernyw · Llangwm · Llangystennin · Llanrhos · Llanrhychwyn · Llan Sain Siôr · Llansanffraid Glan Conwy · Llansannan · Llysfaen · Maenan · Y Maerdy · Melin-y-coed · Mochdre · Nebo · Pandy Tudur · Penmachno · Pensarn · Pentrefelin · Pentrefoelas · Pentre-llyn-cymmer · Pentre Tafarnyfedw · Pydew · Rowen · Rhydlydan · Rhyd-y-foel · Tal-y-bont · Tal-y-cafn · Trefriw · Tyn-y-groes · Ysbyty Ifan