Content-Length: 88026 | pFad | http://cy.wikipedia.org/wiki/Tiriogaethau_dibynnol_y_Goron

Tiriogaethau dibynnol y Goron - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Tiriogaethau dibynnol y Goron

Oddi ar Wicipedia
Lleoliad tiriogaethau dibynnol y Goron (coch) yn Ynysoedd Prydain ac Iwerddon.

Tair tiriogaeth ger Prydain FawrYnys Manaw, Beilïaeth Ynys y Garn, a Beilïaeth Jersey – a chanddynt statws arbennig dan awdurdod y Goron Brydeinig yw tiriogaethau dibynnol y Goron. Nid ydynt yn rhan o'r Deyrnas Unedig nac yn diriogaethau Prydeinig tramor. Nid ydynt ychwaith yn wledydd sofran, a chaiff eu cydnabod yn rhyngwladol yn "diriogaethau dan gyfrifoldeb y Deyrnas Unedig".

Nid ydynt yn aelod-wladwriaethau'r Gymanwlad er eu bod yn danfon timau eu hunain i Gemau'r Gymanwlad. Nid yw'r tiriogaethau hyn yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd, ond maent yn rhan o ardal dollau yr UE. Er nad oes ganddynt annibyniaeth sofran, maent yn cynnal cysylltiadau â'r Gymanwlad, yr UE, a sefydliadau rhyngwladol eraill ac yn aelodau Cyngor Prydain-Iwerddon.

Nid yw'r tiriogaethau dan awdurdod Senedd y Deyrnas Unedig, er bod llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gyfrifol am faterion tramor ac amddiffyn. Mae gan y tair tiriogaeth gynulliadau a'r grym i ddeddfu ar faterion lleol gyda chydsyniad y Goron, naill ai drwy'r Cyfrin Gyngor neu mewn amodau penodol yn Ynys Manaw drwy'r Is-Raglaw.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]








ApplySandwichStrip

pFad - (p)hone/(F)rame/(a)nonymizer/(d)eclutterfier!      Saves Data!


--- a PPN by Garber Painting Akron. With Image Size Reduction included!

Fetched URL: http://cy.wikipedia.org/wiki/Tiriogaethau_dibynnol_y_Goron

Alternative Proxies:

Alternative Proxy

pFad Proxy

pFad v3 Proxy

pFad v4 Proxy