Twrci (aderyn)
Twrci Amrediad amseryddol: Mïosen cynnar hyd heddiw | |
---|---|
Dau dwrci ym Mharc Gwledig Maesglas; 2013 | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Galliformes |
Teulu: | Phasianidae |
Is-deulu: | Meleagridinae |
Genws: | Meleagris Linnaeus, 1758 |
Rhywogaeth | |
M. gallopavo |
Aderyn eitha mawr ydy'r twrci sy'n perthyn i deulu'r Phasianidae sy'n deillio o'r Americas yn wreiddiol. Mae'r rhywogaeth a elwir yn ‘dwrci gwyllt’ (Meleagris gallopavo) yn wreiddiol o fforestydd Gogledd America. Mae'r math dof yn perthyn o bell iddo. Daw'r trydydd math (neu rywogaeth) - y twrci llygedynnog (Meleagris ocellata) o'r Benrhyn Yucatán.[1]
Hanes
[golygu | golygu cod]Camddehonglodd yr Ewropead cyntaf i weld twrci yn America yr aderyn fel math o iâr gini (Numidiae). Arferid galw'r iâr gini yn Saesneg (ac ar lafar) fel turkey fowl, turkey hen a turkey cock oherwydd mai o wlad Twrci yr arferid eu mewnforio i Ewrop a dyma darddiad y gair.[2][3][4] Yn 1550 anrhydeddwyd y fforiwr Saesneg William Strickland gydag arfbais fel gwobr am fewnforio'r twrci i Brydain am y tro cyntaf; wrth gwrs, roedd llun twrci ar yr arfbais.[5]
Ffosiliau o ddyddiau a fu
[golygu | golygu cod]Mae sawl rhywogaeth arall o'r twrci wedi'i ganfod ers cyfnod cynnar y Mïosen (c. 23 mya) gyda'r genws Rhegminornis a'r Proagriocharis bellach yn ddiflanedig. Math tebyg i'r Meleagris (o ddiwedd y cyfnod Mïosen) ydy'r Proagriocharis ac a ddarganfuwyd yn Westmoreland County, Virginia.[1] Diflanodd y Meleagris californica,[6] yn eitha diweddar - yn sicr - arferid ei hela gan bobl.[7] A chredir iddo ddiflannu oherwydd newid yn yr hinsawdd ar ddiwedd Oes yr Iâ diwethaf ac oherwydd gorhela.[8]
Nadolig!
[golygu | golygu cod]Mae'n draddodiad ers tua hanner canrif yng Nghymru a rhai gwledydd eraill ychydig cyn hynny i fwyta'r twrci ar ddydd Nadolig.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Donald Stanley Farner and James R. King (1971). Avian biology. Boston: Academic Press. ISBN 0-12-249408-3.
- ↑ Webster's II New College Dictionary. Houghton Mifflin Harcourt 2005, ISBN 978-0-618-39601-6, p. 1217
- ↑ Andrew F. Smith: The Turkey: An American Story. University of Illinois Press 2006, ISBN 978-0-252-03163-2, p. 17
- ↑ "Why A Turkey Is Called A Turkey : Krulwich Wonders… : NPR". npr.org. Cyrchwyd 30 Medi 2010.
- ↑ Bruce Thomas Boehrer (2011). Animal characters: nonhuman beings in early modern literature p.141. University of Pennsylvania Press
- ↑ Formerly Parapavo californica and initially described as Pavo californica or "California Peacock"
- ↑ Jack Broughton (1999). Resource depression and intensification during the late Holocene, San Francisco Bay: evidence from the Emeryville Shellmound vertebrate fauna. Berkeley: University of California Press. ISBN 0-520-09828-5.; lay summary
- ↑ Bochenski, Z. M., and K. E. Campbell, Jr. 2006. The extinct California Turkey, Meleagris californica, from Rancho La Brea: Comparative osteology and systematics. Contributions in Science, Natural History Museum of Los Angeles County, Number 509:92 pp.