Abad
Gwedd
Math o gyfrwng | galwedigaeth eglwysig |
---|---|
Math | mynach, superior, ordinari |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Abad yw pennaeth abaty a'r gymuned o fynachod sy'n byw ynddo. Fel rheol dylai'r gymuned gynnwys o leiaf 12 o fynachod. Daw'r enw o'r gair Aramaeg abba "tad", ac mae'r abad i fod i ymddwyn fel tad ysbrydol y mynachod sydd yn ei ofal. Yn urddau'r Sistersiaid a'r Benedictiaid mae'r abad yn cael ei ethol am oes ac yn ffigwr o awdurdod mawr.
Roedd nifer o seintiau yn abadau, gan gynnwys Antoni o'r Aifft, Bernardino o Sienna a Bernard o Clairvaux.