Afon Colorado (Arizona)
Gwedd
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Colorado, Arizona, Utah, Nevada, Califfornia, Sonora, Baja California |
Gwlad | Mecsico UDA |
Cyfesurynnau | 40.4722°N 105.8261°W, 31.815°N 114.8°W |
Tarddiad | La Poudre Pass |
Aber | Gwlff California |
Llednentydd | Afon Eagle, Afon Roaring Fork, Afon Gunnison, Afon Dolores, Range Creek, Afon San Juan, Afon Little Colorado, Afon Gila, Afon Green, Afon Dirty Devil, Afon Paria, Kanab Creek, Afon Virgin, Afon Blue, Afon Bill Williams, Havasu Creek, Afon Little Dolores, Muddy Creek, Afon Piney, Plateau Creek, Roan Creek, Williams Fork, Willow Creek, Tapeats Creek, Afon Fraser, Professor Creek, Mill Creek |
Dalgylch | 637,137 cilometr sgwâr |
Hyd | 2,334 cilometr |
Arllwysiad | 640 metr ciwbic yr eiliad |
Afon yn yr Unol Daleithiau a Mecsico yw Afon Colorado (Saesneg: Colorado Rover; Sbaeneg: Río Colorado, sy'n cyrraedd y môr yng Ngwlff Califfornia.
Mae'r afon yn 2333 km o hyd ac yn llifo trwy daleithiau Colorado, Utah, Arizona, Nevada a Califfornia yn yr Unol Daleithiau a Baja California a Sonora ym Mecsico. Ceir ei tharddiad wrth droed mynyddoedd y Rockies yn nhalaith Colorado. Hyd 1921 defnyddid yr enw Colorado ar gyfer yr afon islaw cymer y Grand River a'r Green River yn nhalaith Utah, ond y flwyddyn honno pasiwyd cais gan dalaith Colorado i ddefnyddio'r enw Colorado ar gyfer holl gwrs yr afon.
Yn nhalaith Arizona, crëwyd y Grand Canyon gan Afon Colorado.