Afon Grwyne Fawr
Gwedd
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.8333°N 3.1°W |
Afon yn ne-ddwyrain Cymru sy'n llifo i mewn i Afon Wysg yw afon Grwyne Fawr.
Ceir tarddle afon Grwyne Fawr ar y Mynydd Du, ar lethrau Rhos Dirion, i'r dwyrain o bentref Talgarth. Mae'n llifo tua'r de-ddwyrain i gyrraedd Cronfa Grwyne Fawr, yna'n parhau tua'r de-ddwyrain nes iddi droi tua'r gorllewin ger Pontyspig. Wedi llifo trwy gwm rhwng Mynydd Pen-y-fâl a Crug Mawr, mae Afon Grwyne Fach yn ymuno â hi. Mae'n troi eto tua'r de, trwy bentrefi Llangenni, Cwrt y Gollen a Glangrwyne, ac yn fuan wedi gadael Glangrwyne yn ymuno ag Afon Wysg.