Neidio i'r cynnwys

Angeueg

Oddi ar Wicipedia
Angeueg
Math o gyfrwngdisgyblaeth academaidd Edit this on Wikidata
Mathgwyddoniaeth, applied psychology Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Gwyddor marwolaeth yw angeueg[1] sydd yn astudio'r profiad marw, gofal diwedd oes, ac agweddau seicolegol galaru. Maes rhyngddisgyblaethol ydyw sydd yn tynnu ar feddygaeth a gwyddor iechyd, gwyddor ymddygiad, cymdeithaseg, anthropoleg, diwinyddiaeth, athroniaeth, economeg, ac hanes.

Ym 1903 fe alwodd y biolegydd Élie Metchnikoff am sefydlu disgyblaeth wyddonol i astudio'r holl ffenomenau sydd yn ymwneud â marwolaeth, gan ddadlau bod angen deall y pwnc hwnnw os yw gwyddonwyr am ddeall y gwyddorau bywyd. Ni chafwyd datblygiad yn y maes nes ail hanner yr 20g. Tyfodd y ddisgyblaeth yn y 1960au a'r 1970au ar sail llyfrau gan Herman Feifel, Robert Kastenbaum, Ruth Aisenberg, ac Elisabeth Kübler-Ross.[2][3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Geiriadur yr Academi, "thanatology".
  2. "Thanatology" yn Macmillan Encyclopedia of Death and Dying (Gale, 2002). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 14 Awst 2017.
  3. (Saesneg) Thanatology. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 14 Awst 2017.
pFad - Phonifier reborn

Pfad - The Proxy pFad of © 2024 Garber Painting. All rights reserved.

Note: This service is not intended for secure transactions such as banking, social media, email, or purchasing. Use at your own risk. We assume no liability whatsoever for broken pages.


Alternative Proxies:

Alternative Proxy

pFad Proxy

pFad v3 Proxy

pFad v4 Proxy