Neidio i'r cynnwys

Arena Pula

Oddi ar Wicipedia
Pula Arena

Yr Arena yn Pula, Croatia gyda'i gylch o waliau hynafol.
Lleoliad Pula, Croatia
Math Amffitheatr Rhufeinig
History
Sefydlwyd 27 CC - 68 ÔC
Cyfnodau Yr Ymerodraeth Rufeinig

Amffitheatr Rufeinig ydy Pula Arena, wedi'i lleoli yng nghanol Pula, Croatia. Dyma'r unig amffitheatr sydd wedi goroesi'r blynyddoedd gyda phedwar tŵr a llawer o nodweddion Rhufeinig mewn cyflwr mor dda. Fe'i codwyd yn 27 CC - 68 ÔC[1] ac mae ymhlith y 7 arena fwyaf sydd wedi goroesi drwy'r byd.[1] Mae'n esiampl brin ymhlith y 200 amffitheatr a ellir eu gweld heddiw, a dyma'r gorau yng Nghroatia.

Ceir llun o'r Arena ar gefn papur 10 Kuna Croatiaidd a welodd olau dydd yn 1993, 1995, 2001 a 2004.[2] Mae'r Arena yn parhau i gael ei ddefnyddio yn aml ar gyfer cyngherddau, gyda llwyfan a chadeiriau yn cael eu gosod tu fewn iddo.

Adeiladu

[golygu | golygu cod]

Calchfaen yw'r muriau, ac mae tri llawr i'r rhannau hynny sy'n wynebu'r môr a dau ar y gweddill. Codwyd yr Arena ar lethr ac mae'r waliau'n 29.4 metr ar eu huchaf. Mae gan y ddau lawr cyntaf 72 bwa yr un, gyda 64 agoriad petryal ar y llawr uchaf.

Bwa o wal wedi'i hadfer.

Mae echelin yr amffitheatr siâp ofal yma yn 132.45 and 105.10 m (434.5 and 344.8 tr) o ran hyd, a'r waliau'n 32.45 m (106.5 tr) mewn uchder. Yn ei hamser gallai gynnwys 2,000 o wylwyr yn y cavea, oedd a 40 o risiau wedi'u rhannu'n ddau meniani. Mae'r seddau wedi'u lleoli'n uniongyrchol ar y llawr serth. Mae'r maes lle roedd y chwarae'n digwydd (y gwir arena) yn mesur 67.95 by 41.65 m (222.9 by 136.6 tr). Yn gwahanu'r maes hwn a'r gynulleidfa roedd gatiau haearn cryf.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 Kristina Džin: 2009, Tud 7
  2. Banc Cenedlaethol Croatia. Features of Kuna Banknotes Archifwyd 2009-05-06 yn y Peiriant Wayback: 10 kuna Archifwyd 2011-06-04 yn y Peiriant Wayback (1993), 10 kuna Archifwyd 2011-06-04 yn y Peiriant Wayback (1995), 10 kuna Archifwyd 2011-06-04 yn y Peiriant Wayback (2001) & 10 kuna Archifwyd 2011-06-04 yn y Peiriant Wayback (2004). – Adalwyd 30 Mawrth 2009.
pFad - Phonifier reborn

Pfad - The Proxy pFad of © 2024 Garber Painting. All rights reserved.

Note: This service is not intended for secure transactions such as banking, social media, email, or purchasing. Use at your own risk. We assume no liability whatsoever for broken pages.


Alternative Proxies:

Alternative Proxy

pFad Proxy

pFad v3 Proxy

pFad v4 Proxy