Athletau (trac a chae)
Gwedd
Trac rhedeg yn Stadiwm Olympaidd Helsinki, y Ffindir | |
Math o gyfrwng | math o chwaraeon |
---|---|
Math | chwaraeon olympaidd, athletics |
Yn cynnwys | running discipline of track, racewalking, jumping, throwing, combined track and field events, track and field, field sport, indoor athletics, long-distance running |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Dosbarth o chwaraeon yw athletau, neu athletau trac a chae, sy'n cynnwys rhedeg, taflu, neidio a cherdded. Daw'r enw o'r gair Groeg athlos sy'n golygu "gornest". Y cystadlaethau mwyaf cyffredin yw trac a chae, rhedeg lôn a thraws gwlad. Dim ond mewn ras gyfnewid mae athletwyr yn cystadlu fel tîm, yn amlach na pheidio, camp i'r unigolyn yw athletau.
Cystadleuthau
[golygu | golygu cod]- Cystadleuthau trac - rhedeg ar drac 400 metr.
- Cystadleuthau pellter: cystadleuthau rhwng 800m a 3000m, 800m, 1500m, milltir a 3000m.
- Ras ffos a pherth - ras (fel arfer 3000m) lle mae rhedwyr yn ymdrin â rhwystrau a neidiau dros ddŵr.
- Ras glwydi: clwydi tal 110m (100m merched) a 400m canolig.
- Ras gyfnewid: 4 x 100 m, 4 x 400m, ras gyfnewid 4 x 200m, ras gyfnewid 4 x 800m, ras gyfnewid 4 x 1 Milltir, ayb.
- Rhedeg ffordd: yn cael ei gynnal ar y ffordd agored, ond yn aml yn gorffen ar drac. Pellteroedd cyffredin: 5 km, 10 km, hanner-marathon a marathon.
- Ras gerdded: fel arfer yn cael ei gynnal ar y ffordd agored. Pellteroedd cyffredin: 10 km, 20 km a 50 km.
- Cystadleuthau cae
- Cystadleuthau aml-ddisgyblaeth
- Decathlon
- Heptathlon
- Pentathlon
- Cystadleuthau neidio
- Cystadleuthau taflu