Calais
Delwedd:Coat of Arms of Calais.svg, Blason ville fr Calais (Pas-de-Calais).svg | |
Math | cymuned, dinas, tref ar y ffin, dinas Rhyfeinig |
---|---|
Poblogaeth | 67,585 |
Pennaeth llywodraeth | Natacha Bouchart |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | |
Nawddsant | Baino di Thérouanne |
Daearyddiaeth | |
Sir | Pas-de-Calais, canton of Calais-Centre, canton of Calais-Est, canton of Calais-Nord-Ouest, canton of Calais-Sud-Est, arrondissement of Calais |
Gwlad | Ffrainc |
Arwynebedd | 33.5 km² |
Uwch y môr | 0 metr, 18 metr |
Yn ffinio gyda | Marck, Sangatte, Coquelles, Coulogne |
Cyfesurynnau | 50.9475°N 1.8556°E |
Cod post | 62100 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Calais |
Pennaeth y Llywodraeth | Natacha Bouchart |
Porthladd, dinas a chymuned yng ngogledd Ffrainc, sous-préfecture yn département Pas-de-Calais a'i dinas fwyaf, yw Calais. Datblygodd yn un o'r borthladdoedd pwysicaf y Môr Udd am ei bod yn gorwedd ar y llwybr byrraf dros y Sianel rhwng Ffrainc a Lloegr (34 km / 21 milltir). Mae gan y gymuned (sef y ddinas) boblogaeth o 77,333 (1999) neu 125,584 am yr ardal fetropolaidd (aire urbaine).
Yn y Rhyfel Can Mlynedd cafodd ei gwarchae a'i chipio gan y Saeson dan Edward III yn 1346 ac arhosodd yn nwylo'r Saeson fel eu troedle olaf yn Ffrainc hyd at 1558 pan gipiwyd y dref yn ôl gan y Ffrancod dan François de Guise. Gwasanaethodd yr hanesydd Cymreig Elis Gruffydd, awdur Cronicl Chwech Oes y Byd, sy'n cynnwys Hanes Taliesin, yng ngarsiwn Calais am gyfnodau rhwng 1529 a 1552. Cafodd Calais ei bomio'n drwm yn yr Ail Ryfel Byd wrth i luoedd Prydain geisio amddiffyn y milwyr a oedd yn ceisio ffoi i Loegr o Dunkerque.
Mae llongau fferi yn hwylio'n rheolaidd rhwng Dofr a Chalais. 6 km y tu allan i'r dref ceir terminws Ffrengig Twnnel y Sianel.
Adeiladau a chofadeiladau
[golygu | golygu cod]- Neuadd y Ddinas
- Les Bourgeois de Calais
- Tour de Guet
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Ffrangeg) Gwefan swyddogol Calais Archifwyd 2008-09-07 yn y Peiriant Wayback
- (Ffrangeg) Agglomération Archifwyd 2007-04-27 yn y Peiriant Wayback Yr ardal leol
- (Ffrangeg) Gwybodaeth am y ddinas a'r porthladd Archifwyd 2010-08-20 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Porth Calais Archifwyd 2007-10-07 yn y Peiriant Wayback