Casiwbeg
Gwedd
Enghraifft o: | iaith naturiol, iaith fyw |
---|---|
Math | ieithoedd Lechitig |
Enw brodorol | Kaszëbsczi jãzëk |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-2 | csb |
cod ISO 639-3 | csb |
Gwladwriaeth | Gwlad Pwyl, Unol Daleithiau America, Canada |
System ysgrifennu | yr wyddor Ladin |
Corff rheoleiddio | Kashubian language council |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Iaith a siaredir yng Ngwlad Pwyl yw Casiwbeg (kaszëbsczi jãzëk, pòmòrsczi jãzëk, kaszëbskò-słowińskô mòwa). Mae'n perthyn i'r ieithoedd Lechtaidd, is-grŵp o'r ieithoedd Slafonaidd. Yng nghyfrifiad Gwlad Pwyl yn 2011, datganodd 106,000 o bobl eu bod yn siarad yr iaith gartref yn bennaf[1]. Mae pawb sy'n siarad Casiwbeg yn siarad Pwyleg hefyd. Mae nifer o ysgolion yn dysgu drwy gyfrwng yr iaith ac mae'n iaith swyddogol at ddibenion gweinyddu lleol yn Gmina Sierakowice, Gmina Linia a Gmina Parchowo yn Nhalaith Pomerania.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Ł.G. (2012-07-26). "GUS podaje: ponad 100 tys. osób mówi po kaszubsku". Kaszubi.pl. Cyrchwyd 2012-08-01.