Neidio i'r cynnwys

Cenhedlaeth y Bitniciaid

Oddi ar Wicipedia
Cenhedlaeth y Bitniciaid
Enghraifft o'r canlynolmudiad llenyddol Edit this on Wikidata
SylfaenyddJack Kerouac, William S. Burroughs, Allen Ginsberg Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Defnyddir y term Cenhedlaeth Bitniciaid (Saesneg:Beat Generation) i ddisgrifio grŵp o ysgrifenwyr Americanaidd (o dan arweiniad Allen Ginsberg a Jack Kerouac). Daethant i'r amlwg yn ystod y 1950au a mynegai eu gwaith deimlad eu bod wedi'u hynysu o'r gymdeithas dosbarth canol.[1] Weithiau, caiff y term ei ddefnyddio hefyd i ddisgrifio'r ffenomena diwylliannol yr ysgrifenasant amdano neu'r ysbrydolant. (Yn ddiweddarach, cawsant eu galw'n "beatniks" hefyd.) Mae'r elfennau canolog i ddiwylliant "Bitnic" yn cynnwys gwrthod gwerthoedd Americanaidd traddodiadol, arbrofi gyda chyffuriau a mathau gwahanol o rywioldeb, yn ogystal â diddordeb mewn ysbrydolrwydd gwledydd Asia.

Prif weithiau llenyddol y Genhedlaeth Bitniciaid oedd Howl (1956) gan Allen Ginsberg, Naked Lunch (1959) gan William S. Burroughs a On the Road (1957) gan Jack Kerouac. Daethpwyd ag achosion llys yn erbyn "Howl" a "Naked Lunch" am eu bod yn cael eu hystyried yn anweddus ond yn ei dro, arweiniodd hyn at ryddfrydu'r hyn a allai gael ei argraffu yn yr Unol Daleithiau. Trawsnewidiodd "On the Road" ffrind Kerouac, Neal Cassady i fod yn arwr diwylliannol i'r ieuanc. Datblygodd aelodau'r Genhedlaeth y Bitniciaid enw i'w hunain fel hedonyddion bohemaidd newydd, a ddathlai anghydffurfiaeth a chreadigrwydd byrbwyll.

Cyfarfu llenorion gwreiddiol "Cenhedlaeth y Bitniciaid" yn Ninas Efrog newydd. Yn ddiweddarach, cyfarfu'r prif gymeriadau (ac eithrio Burroughs) yn San Francisco yng nghanol y 1950au. Daethant yn gyfeillion â chymeriadau a oedd yn gysylltiedig ag Adfywiad San Francisco. Yn ystod y 1960au, gweddnewidiwyd y diwylliant bitnicaidd a oedd yn ehangu'n gyflym: symudodd y Genhedlaeth Bitnicaidd o'r neilltu a chymrodd Gwrth-ddiwylliant y Chwechdegau ei le, a newidiodd terminoleg y cyhoedd o "bitnic" i "hipi".

Ysgrifenwyr

[golygu | golygu cod]

Yn aml, defnyddiai'r wasg y term "bitnic" pan yn cyfeirio at grŵp bychan o ysgrifenwyr, ffrindiau Ginsberg, Kerouac, Burroughs ac weithiau Corso. Byddai diffiniad ychydog yn ehangach yn cynnwys beirdd tebyg eraill o Efrog Newydd, ond dal yn ystyried Adfywiad San Francisco a beirdd y Mynyddoedd Duon fel mudiadau ar wahan.

Yn ei ddiffiniad mwyaf eang, byddai'r categori "Bitnic" yn cynnwys yr is-grŵpiau hyn i gyd, a nifer o ysgrifenwyr eraill a ddaeth i amlygrwydd ar ddiwedd y 1950au a dechrau'r 1960au, a oedd yn rhannu'r un weledigaeth o ran themâu, syniadau, a nodau (ymrwymiad i fyw i'r funud, cyfansoddiad agored, agweddau gwrthrychol ac ati); er efallai mai prin oedd eu cysylltiad cymdeithasol â'r prif grŵp, ac y byddai nifer ohonynt yn gwadu eu bod yn rhan o "Genhedlaeth y Bitniciaid" o gwbl.

Prif gymeriadau ac ysgrifenwyr cynharaf y Bitniciaid oedd Jack Kerouac, William S. Burroughs, Allen Ginsberg, Neal Cassady, Gregory Corso, Herbert Huncke, Peter Orlovsky, a John Clellon Holmes. Roedd rhai o Fitniciaid craidd San Francisco yn gysylltiedig ag Adfywiad San Francisco, pobl fel Gary Snyder, Philip Whalen, Lew Welch, Lawrence Ferlinghetti, Harold Norse, Kirby Doyle, a Michael McClure. Roedd y beirdd a oedd yn gysylltiedig â Choleg y Mynydd Du yn gysylltiedig â Chenhedlaeth y Bitniciaid hefyd, megis Robert Creeley, Denise Levertov, Robert Duncan (er fod Duncan yn un o feirniaid cynharaf o'r label "Cenhedlaeth y Bitniciaid"). Yn ogystal â hyn, roedd beirdd o'r "New York School" fel Frank O'Hara, Kenneth Koch; beirdd swreal fel Philip Lamantia a Ted Joans; a beirdd y cyfeirir atynt weithiau fel "ail don" Cenhedlaeth y Bitniciaid, megis LeRoi Jones/Amiri Baraka, Diane DiPrima ac Anne Waldman.

Ymysg y bobl eraill a gysylltir â'r Bitniciaid, mae Bob Kaufman, Tuli Kupferberg, Ed Sanders, Hubert Selby, Jr., John Wieners, Jack Micheline, A. D. Winans, Ray Bremser a Bonnie Bremser/Brenda Frazer, Ed Dorn, Jack Spicer, David Meltzer, Richard Brautigan, Lenore Kandel. Roedd nifer o ysgrifenwyr benywaidd hefyd yn rhan o'r sîn, gan gynnwys Joanne Kyger, Kaye McDonough, Harriet Sohmers Zwerling, Janine Pommy Vega, Elise Cowen. Roedd rhai ysgrifenwyr ifanc yn adnabod rhai o'r ysgrifenwyr y soniwyd amdanynt uchod (fel Bob Dylan, Ken Kesey, Jim Carroll, Ron Padgett) ac weithiau cânt eu cynnwys ar y rhestr hon.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]

Tudalennau cyffredinol am y Genhedlaeth Bitnicaidd

[golygu | golygu cod]

Tudalennau twristaidd Bitnicaidd

[golygu | golygu cod]

Ffotograffau

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Fargis, Paul (1998). The New York Public Library Desk Reference - 3rd Edition. Macmillan General Reference. td. 262. ISBN 0-02-862169-7
pFad - Phonifier reborn

Pfad - The Proxy pFad of © 2024 Garber Painting. All rights reserved.

Note: This service is not intended for secure transactions such as banking, social media, email, or purchasing. Use at your own risk. We assume no liability whatsoever for broken pages.


Alternative Proxies:

Alternative Proxy

pFad Proxy

pFad v3 Proxy

pFad v4 Proxy