Chwyddiant
Delwedd:Cpis.PNG, CPI GDP M2 and Velocity.png | |
Math o gyfrwng | cysyniad economaidd, ffenomen |
---|---|
Math | economic problem |
Y gwrthwyneb | deflation |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn gyffredinol, cyflwr economaidd yw chwyddiant pan fo prisiau nwyddau a gwasanaethau'n codi am ysbaid o amser, hynny yw, pan fo swm yr arian dreigl a chredyd yn cynyddu o'u cymharu â maint y cynnyrch mewn nwyddau masnachol.[1][2]
Ceir tri phrif fath o chwyddiant:
- Chwyddiant galw-tynnu (demand-pull inflation), pan fo'r galw am nwyddau yn uwch na'r cyflenwad ar y farchnad.
- Chwyddiant cost-gwthio (cost-push infaltion), pan fo cynnydd mewn prisiau nwyddau yn absenoldeb cynnydd yn y galw amdanynt.
- Chwyddiant ariannol (monetary inflation), pan geir cynnydd yn y cyflenwad arian.
Pan fo prisiau nwyddau a gwasanaethau'n codi, mae uned o arian yn prynu llai o nwyddau; adlewyrcha hyn y 'pŵer prynu' (purchasing power) gwladwriaeth; po fwya'r chwyddiant, po leiaf ydy'r pŵer prynu, a pho fwyaf yw'r diffyg a'r gwerth real yr economi.[3][4] Mesurir chwyddiant gan raddfa blynyddol chwyddiant a'r consumer price index.[5]
Mae chwyddiant yn effeithio'r economi mewn ffyrdd gwahanol: yn adeiladol ac yn negyddol. Yn negyddol, gwelir cynnydd yng nghostau buddsoddi, ansicrwydd o lefel chwyddiant y dyfodol (sy'n atal buddsoddi), ac (ar ei eithaf) lleihad yn y nwyddau sydd ar gael. Yn adeiladol, mae'n caniatáu i fanciau canolog graddfeydd llog, a rheoli neu leihau'r posibilrwydd o ddirwasgiad,[6] ac yn annog buddsoddi mewn prosiectau cyfalaf.
Gwledydd Prydain
[golygu | golygu cod]Datgysylltwyd arian sterling oddi ar y 'safon aur' yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf er mwyn ei ariannu. Effaith hyn oedd chwyddiant a chynydd yng ngwerth aur; gwelodd y bunt, hefyd ostyngiad o fewn y cyfraddau llog rhyngwladol. Pan ail-gysylltwyd y bunt gyda'r 'safon aur' wedi'r Rhyfel Mawr, gwnaed hynny ar sail prisiau aur cyn y rhyfel, a oedd yn uwch, a bu'n rhaid gostwng prisiau'n sylweddol.
Cafwyd adegau o wrth-chwyddiant (neu 'ddatchwyddiant') yng ngwledydd Prydain: disgynnodd 10% yn 1921 a 3-5% yn y 1930au cynnar.[7]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Geiriadur Prifysgol Cymru, cyfrol 1, tud. 861.
- ↑ Gweler:
- ↑ Why price stability? Archifwyd 2008-10-14 yn y Peiriant Wayback, Central Bank of Iceland, adalwyd 11 Medi 2008.
- ↑ Paul H. Walgenbach, Norman E. Dittrich and Ernest I. Hanson, (1973), Financial Accounting, New York: Harcourt Brace Javonovich, Inc. Page 429. "The Measuring Unit principle: The unit of measure in accounting shall be the base money unit of the most relevant currency. This principle also assumes that the unit of measure is stable; that is, changes in its general purchasing power are not considered sufficiently important to require adjustments to the basic financial statements."
- ↑ Mankiw 2002, tt. 22–32
- ↑ Mankiw 2002, tt. 238–255
- ↑ Bank of England Quarterly inflation report; Chwefror 2009 p33 siart A