Cytsain lotal
Gwedd
Mewn seineg, yngenir cytsain lotal â'r camdwll, neu'r glotis. Mae llawer o seinegwyr yn credu mai cyflyrau trosiannol y camdwll ydyn nhw, neu'r "ffritholion" o leia, heb bwyntiau ynganiad fel sydd gan gytseiniaid eraill. Dyw rhai seinegwyr ddim yn eu hystyried nhw'n gytseiniaid o gwbl. Er hynny, mae'r ffrwydrolyn glotal yn ymddwyn fel cytsain arferol mewn ieithoedd fel yr iaith Tsou.
Ceir y cytseiniaid glotal canlynol yn yr Wyddor Seinegol Ryngwladol (IPA):
IPA | Disgrifiad | Enghraifft | |||
---|---|---|---|---|---|
Iaith | Sillafiad | IPA | Ystyr | ||
ʔ | cytsain ffrwydrol lotal ddi-lais | Hawäieg | ‘ōlelo | [ʔoːlelo] | iaith |
ɦ | cytsain "ffrithiol" lotal leisiol â llais anadlog | Tsieceg | Praha | [praɦa] | Prag |
h | cytsain "ffrithiol" lotal ddi-lais | Cymraeg | hwch | [huːχ] | hwch |