David Davies (Dewi Emlyn)
David Davies | |
---|---|
Ffugenw | Dewi Emlyn |
Ganwyd | 9 Tachwedd 1817 Cenarth |
Bu farw | 2 Awst 1888 Pennsylvania |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, llenor |
Bardd a llenor Cymraeg oedd David Davies (9 Tachwedd 1817 – 2 Awst 1888), a adnabyddir gan amlaf wrth ei enw barddol Dewi Emlyn.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Brodor o Genarth yn Sir Gaerfyrddin oedd Dewi Emrys. Fel nifer o'ir gydwladwyr yn y cyfnod hwnnw, ymfudodd i'r Unol Daleithiau yn ddyn ifanc i geisio byd gwell. Daeth yn adnabyddus yn y gymuned Gymreig yno fel bardd.
Nid oes llawer o werth llenyddol i waith barddol Dewi Emrys. Fe'i cofir yn bennaf heddiw am y gyfres o lythyrau honedig gan ferch ifanc o Gymru at ei chwaer yn America a gyhoeddwyd yn 1870 fel Llythyrau Anna Beynon. Ymddangosodd y rhain yn y cylchgrawn Yr Haul yn gyntaf ac roedd pobl yn meddwl bod Anna Beynon yn ferch gig a gwaed. Roedd yn dipyn o syndod pan gyhoeddodd Dewi Emlyn mai ef oedd yr awdur. Fel llenyddiaeth mae'r llythyrau dychymgol hyn yn cael eu gwerthfarwogi heddiw, ond codwyd ffrae am y "twyll" a ystyrid yn dipyn o sgandal gan rai.
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru)