De'r Unol Daleithiau
Math | ardal ddiwylliannol, United States census region, U.S. region |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Unol Daleithiau America |
Gwlad | UDA |
Yn ffinio gyda | Gogledd yr Unol Daleithiau, Canolbarth yr Iwerydd |
Cyfesurynnau | 33.9°N 89.5°W |
Un o brif ranbarthau hanesyddol a diwylliannol Unol Daleithiau America yw De'r Unol Daleithiau sydd yn ffinio â Chefnfor yr Iwerydd i'r dwyrain, â rhanbarthau'r Gogledd-ddwyrain a'r Gorllewin Canol i'r gogledd, â'r De-orllewin i'r gorllewin, ac â Mecsico a Gwlff Mecsico i'r de.
Mae'r De yn cyfateb i ddeheubarthau yr Unol Daleithiau yn ystod cyfnod boreuol y wlad, cyn i'r ffin orllewinol ymledu hyd at y Cefnfor Tawel. Nid yw'r De yn gyfystyr felly â holl ardaloedd deheuol yr Unol Daleithiau gyffiniol heddiw—mae Ardal yr Haul yn enw cyffredinol ar diriogaeth ddeheuol y wlad, o'r Cefnfor Tawel hyd at yr Iwerydd. Yn hytrach, mae rhanbarth y De yn cyfateb i ardaloedd de-ddwyreiniol yr Unol Daleithiau. Yn hanesyddol, diffinir y De fel y rhan o'r wlad i dde Llinell Mason–Dixon, Afon Ohio, a pharalel lledred 36°30′.[1] Yn ôl llywodraeth ffederal yr Unol Daleithiau, mae'r De yn cynnwys taleithiau Alabama, Arkansas, De Carolina, Delaware, Fflorida, Georgia, Gogledd Carolina, Gorllewin Virginia, Kentucky, Louisiana, Maryland, Mississippi, Oklahoma, Tennessee, Texas, a Virginia, yn ogystal â'r brifddinas genedlaethol, Washington, D.C. Mae'r rhan helaethaf o'r rhanbarth yn cyfateb i diriogaeth Taleithiau Cydffederal America (1861–65).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) The South (region, United States). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 16 Mehefin 2024.