Dodecanese
Math | grŵp o ynysoedd |
---|---|
Poblogaeth | 190,071 |
Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00 |
Daearyddiaeth | |
Sir | De Aegeaidd |
Gwlad | Gwlad Groeg |
Arwynebedd | 2,714 km² |
Uwch y môr | 1,216 metr |
Gerllaw | Môr Aegeaidd |
Cyfesurynnau | 36.45°N 27.3°E |
Grŵp o ynysoedd yn nwyrain Gwlad Groeg yw'r Dodecanese (Groeg: Δωδεκάνησα) neu Y Deuddeng Ynys.[1] Ystyr yr enw Groeg yw "Y Deuddeg Ynys" ond mae'n enw camarweiniol braidd. Ceir 15 prif ynys yn y grŵp heddiw a cheir trigfannau ar ambell ynys lai yn ogystal. Yn ddiwylliannol ac yn wleidyddol maent yn perthyn i Wlad Groeg ond yn ddaearyddol maen nhw'n perthyn i Asia Leiaf am eu bod yn gorwedd yn agos iawn i'w harfordir de-orllewinol. Mae'r enw 'Dodecanese' yn deillio o 1908 pan unodd deuddeg ynys mewn protest yn erbyn colli eu breintiau traddodiadol dan lywodraeth yr Otomaniaid, a roddwyd iddynt yn y 16g gan Suleiman y Mawreddog. Ystyrir ynys Rhodes, nad oedd yn un o'r deuddeg ynys gwreiddiol, fel y pennaf o'r Dodecanese heddiw gyda dinas Rhodes yn brifddinas y grŵp. Twristiaeth sy'n dominyddu'r economi lleol erbyn heddiw.
Y prif ynysoedd
[golygu | golygu cod]- Agathonisi (Αγαθονήσι)
- Astypalaia (Αστυπάλαια)
- Kalymnos (Κάλυμνος)
- Karpathos (Κάρπαθος)
- Kastellorizo (Καστελλόριζο)
- Kasos (Κάσος)
- Kos (Κως)
- Khalki (Χάλκη)
- Leros (Λέρος)
- Lipsos (Λειψοί)
- Nisiros (Νίσυρος)
- Patmos (Πάτμος)
- Rhodes (Rodos) (Ρόδος)
- Simi (Σύμη)
- Tilos (Τήλος)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Geiriadur yr Academi, Dodecanese.