Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 1978
Enghraifft o'r canlynol | un o gyfres reolaidd o wyliau |
---|---|
Dyddiad | 1978 |
Cyfres | Eisteddfod Genedlaethol Cymru |
Lleoliad | Pentwyn |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1978 yn ardal Pentwyn, Caerdydd. Emyr Currie-Jones oedd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith. a T. Llewelyn Hughes a'r Barnwr Dewi Watkyn Powell oedd yr Is-gadeiryddion.
Ar Nos Sul y 6ed o Awst cynhaliwyd Cyngerdd Operatig gyda Geraint Evans, Kenneth Bowen, Anne Edwards, a Maureen Guy, Côr yr Eisteddfod, Cerddorfa Symffoni Gymreig y BBC dan arweiniad Owain Arwel Hughes a James Callaghan yn Llywydd.
Testun y Fedal Ryddiaith oedd hunangofiant ar thema 'Trobwynt' neu 'Argyfwng'. Rhoddwyd y Fedal gan Gymdeithas Islwyn ac roedd gwobr ariannol o £250 hefyd. Daeth 22 cyfrol i law a chyhoeddodd y tri beirniad, Bedwyr Lewis Jones, John Gwilym Jones a Rhiannon Davies Jones, taw 'Johannes' oedd yn fuddugol. Mae'n ddyddiadur dychmygol Søren Kierkegaard, sef athronydd a llenor ifanc oedd ar ei wely angau mewn ysbyty yn Copenhagen. Roedd yna perfformiad gan disgyblion Ysgol Gyfun Rhydfelen o 'Tonfedd 78'.[angen ffynhonnell]
Cystadleuaeth | Teitl y Darn | Ffugenw | Enw |
---|---|---|---|
Y Gadair | Y Ddinas | Atal y wobr | |
Y Goron | Dilyniant o gerddi | "Aman Bach" | Siôn Eirian |
Y Fedal Ryddiaith | Y Ddaeargryn Fawr | "Iohannes" | Harri Williams |
Gwobr Goffa Daniel Owen | Hirfaen (Ac Yna Clywodd Sŵn y Môr) | "Cymydmaen" | Alun Jones |
Printiau'r Cyhoeddi
[golygu | golygu cod]Cynhyrchwyd cyfres Printiau’r Cyhoeddi gan artistiaid y brifddinas nôl yn 1977 er mwyn dathlu dyfodiad y Brifwyl i Gaerdydd y flwyddyn ganlynol. Comisynwyd y gwaith gyda chymorth Cyngor Celfyddydau Cymru ac roedd y printiau i’w gwerthu er mwyn codi arian tuag at wobrau celf weledol y Brifwyl. Yr amcan ar y pryd oedd cynhyrchu cyhoeddiad cyfyngedig o 35 print gan bob un artist, a oedd un ai’n byw neu’n gweithio yng Nghaerdydd, neu â chysylltiad â’r Ysgol Gelf.
Mae’r casgliad yn cynnwys gwaith argraffu sgrîn sidan, lithograffi ac ysgythru gan yr artisitiad canlynol: Mervyn Baldwin, Paul Beauchamp, Paul Brewer, Evan Charlton, Felicity Charlton, Barrie Cook, Michael Crowther, Geoff Davies, Hugh Evans, Linda Evans, Russell Greenslade, Harry Holland, Tom Hudson, Phil Jennings, Glyn Jones, Eliseo Lagana, Eric Malthouse, Arthur Miles, David Miller, Beverley Napp, Philip Nicol, Chris Orr, Terry Setch, Chris Shurrock a Jeffrey Steele.
Aeth dau o’r cyfranogwyr, Paul Brewer a Phil Nicol, ymlaen i ennill y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yn yr Eisteddfod Genedlaethol a dau arall, Terry Setch a Chris Orr, bellach yn aelodau o’r Academi Frenhinol yn Llundain.
Aeth y casgliad yn anghof am nifer o flynyddoedd. Daethpwyd o hyd i flwch mawr pren yn swyddfa’r Eisteddfod yng Nghaerdydd. Ynddo roedd printiau amrywiol gan 25 artist a bu arddangosfa a gwerthiant o'r gwaith yn mis Rhagfyr 2013.[1][2][3]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Eisteddfod Genedlaethol Cymru – hanes yr Eisteddfod Genedlaethol
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd – achlysuron eraill pan gynhaliwyd yr Eisteddfod yng Nghaerdydd
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwaith celf 'coll' o'r Eisteddfod yn mynd ar werth Delweddau o'r casgliad, BBC Cymru 3 Rhagfyr 2013
- ↑ Ar werth – argraffiadau coll 1977 yr Eisteddfod Genedlaethol Archifwyd 2014-03-20 yn y Peiriant Wayback Pobl Caeryddd 27 Tachwedd 2103
- ↑ Taflen yn hyrwyddo'r arwerthiant[dolen farw]