Neidio i'r cynnwys

Entropi gwybodaeth

Oddi ar Wicipedia

Mewn damcaniaeth gwybodaeth, mesur o'r ansicrwydd a gysylltir â hapnewidyn yw entropi gwybodaeth.

Gellir dehongli'r entropi hwn fel yr hyd neges cyfartalog lleiaf posib (mewn didau) sy'n cyfleu allbwn yr hapnewidyn. Cynrychiola hyn derfan mathemategol ar y cywasgiad di-golled gorau posib o ddata: lleiafswm y nifer o ddidau a ellir eu danfon i gyfathrebu neges ydyw. Yn gyfwerth, gellir ei ystyried yn fesur o'r wybodaeth gyfartalog mae'r derbynnydd yn ei golli wrth beidio gwybod gwerth yr hapnewidyn.

Cyflwynwyd y cysyniad gan Claude E. Shannon yn ei bapur "A Mathematical Theory of Communication" a gyhoeddwyd ym 1948.

Diffiniad

[golygu | golygu cod]

yw entropi gwybodaeth hapnewidyn arwahanol X a all gymryd y gwerthoedd {x1...xn} lle mai

I(X) yw cynnwys gwybodaeth X, sydd yn hapnewidyn ei hun; a
p(xi) = P(X=xi) yw ffwythiant dwysedd tebygolrwydd X.

[gellir ymestyn y diffiniad hwm i hapnewidynnau di-dor]

Entropi a cynnwys gwybodaeth

[golygu | golygu cod]

gw. Theorem codio ffynhonnell Shannon

Cywasgu data

[golygu | golygu cod]

Mae entropi yn arffinio perfformiad cywasgiad di-golled o ddata, ac fe ellir cyflawni'r cywasgiad gorau posib trwy ddefnyddio'r set nodweddiadol (neu'n ymarferol, codio Huffman, Lempel-Ziv neu codio rhifyddol.

Cyfyngiadau ar y dehongliad o entropi fel cynnwys gwybodaeth

[golygu | golygu cod]

Er fod entropi yn cael ei ddehongli'n aml fel mesur o gynnwys gwybodaeth ffynhonnell ddata, nid yw'r cynnwys gwybodaeth hwn yn absolìwt: mae'n dibynnu'n llwyr ar y model tebygoliaethol. Mae entropi o 0 gan ffynhonnell sy'n cynhyrchu un symbol yn unig, ond mae'r diffiniad o symbol yn dibynnu ar yr wyddor dan sylw. Ystyriwch ffynhonnell sy'n cynhyrchu'r dilyniant ABABABABAB... Os tybiwn fod llythrennau unigol yn annibynnol, mae cyfradd entropi o un did i bob llythyren. Ond os tybiwn mae deugraffiau yw'r symbolau yn y model, yna 0 yw'r cyfradd entropi. Fodd bynnag, os defnyddiwn blociau mawr, yna fe allem gael amcymgyfrifiad annaturiol o isel o'r gyfradd entropi.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: set nodweddiadol o'r Saesneg "typical set". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.
pFad - Phonifier reborn

Pfad - The Proxy pFad of © 2024 Garber Painting. All rights reserved.

Note: This service is not intended for secure transactions such as banking, social media, email, or purchasing. Use at your own risk. We assume no liability whatsoever for broken pages.


Alternative Proxies:

Alternative Proxy

pFad Proxy

pFad v3 Proxy

pFad v4 Proxy