Ffilistiaid
Delwedd:Types philistins sur le monuments égyptiens de Médinet-Abou-Vigouroux-DB-vol5.jpg, Philistine captives at Medinet Habu.jpg | |
Enghraifft o'r canlynol | grwp ethnig hanesyddol |
---|---|
Crefydd | Mytholeg phoenicaidd |
Gwladwriaeth | Philistia |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Pobl yn byw ger arfodir de-ddwyreiniol y Môr Canoldir, yn yr hyn sydd nawr yn Israel a Llain Gaza, oedd y Ffilistiaid, weithiau Philistiaid (Hebraeg: פְלִשְׁתִּים, felištīm, Arabeg: بليستوسين bilīstūsiyyīn). Roedd eu tiriogaeth yn ymestyn o Hebron hyd Gaza yn y cyfnod Beiblaidd. Rhoddasant eu henw i wlad Palesteina.
Ymddengys mai mewnfudwyr i'r ardal yma oedd y Ffilistiaid, ond mae'n ansicr o ble y daethant; cred rhai eu bod wedi dod o arfordir Môr Aegaea yn y 12fed a'r 13g CC.. Efallai fod cysylltiad rhyngddynt a'r bobl a elwid gan yr Hen Eifftiaid yn Bobloedd y Môr, a ymosododd ar yr Aifft yng nghyfnod y brenin Ramesses III. Ymddengys nad oeddynt yn bobl Semitaidd. Roedd ganddynt bum dinas-wladwriaeth, Ashdod, Ashkelon, Gath, Azoto a Gaza. Eu duwiau oedd Dagon a Baal.
Yn y Beibl, fe'i disgrifir fel pobl ryfelgar, a gelynion i'r Israeliaid. Ymhlith y Ffilistiaid enwocaf yn y Beibl roedd y cawr Goliath, a laddwyd gan Dafydd, a Deleila, a hudodd Samson gan alluofi ei chydwladwyr i'w gymeryd yn garcharor.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Corinne Mamane Museum of Philistine Culture
- National Geographic article Archifwyd 2008-03-26 yn y Peiriant Wayback
- List of Biblical References to Philistines or Philistia Archifwyd 2006-05-16 yn y Peiriant Wayback
- Tell es-Safi/Gath Archaeological Project Website Archifwyd 2009-04-19 yn y Stanford Web Archive
- Tell es-Safi/Gath Archaeological Project Blog
- Penn State University - The Sea Peoples and the Philistines (link broken)
- Neal Bierling, Giving Goliath his Due: New Archaeological Light on the Philistines (1992) Archifwyd 2018-04-05 yn y Peiriant Wayback
- "Philistines". Encyclopædia Britannica (arg. 11th). 1911.
- The Center for Online Judaic Studies: Ramesses III and the Philistines, 1175 BC
- Biblical Archaeology Review - Yavneh Yields Over a Hundred Philistine Cult Stands Archifwyd 2012-05-31 yn y Peiriant Wayback
- Neal Bierling. Giving Goliath His Due. New Archaeological Light on the Philistines Archifwyd 2018-04-05 yn y Peiriant Wayback