Neidio i'r cynnwys

Gallt Melyd

Oddi ar Wicipedia
Gallt Melyd
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPrestatyn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.3167°N 3.4167°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ059807 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruGareth Davies (Ceidwadwyr)
AS/au y DUBecky Gittins (Llafur)
Map

Pentref yng ngogledd Sir Ddinbych rhwng Prestatyn a Diserth yw Gallt Melyd ("Cymorth – Sain" ynganiad ) neu Alltmelyd (Saesneg: Meliden).[1]

Tyst i bresenoldeb pobl yn yr ardal yn Oes yr Efydd neu ddiwedd Oes Newydd y Cerrig yw Crug Tŷ Draw, sy'n un o dros 400 o grugiau crwn yng Nghymru.

Tyfodd y pentref wrth i fwyngloddiau plwm a chwareli calchfaen yr ardal agor ar ddiwedd y 18g ac i mewn i'r ganrif olynnol. Enwir y pentref ar ôl Sant Melyd, ac mae'r eglwys yn gysegredig iddo.

Addysg a hamdden

[golygu | golygu cod]

Mae'r hen reilffordd rhwng Prestatyn a Diserth yn rhan o Llwybr y Gogledd (Prestatyn - Bangor) erbyn heddiw. Mae gan y pentref gwrs golff naw twll.

Ysgol Gynradd Sant Melyd yw'r ysgol leol.

Eglwys Sant Melyd

[golygu | golygu cod]

Yng nghanol y pentref saif Eglwys Sant Melyd a chyfeirir at ei bodolaeth yn 1086 yn Llyfr Dydd y Farn - o bosib allan o bren.[2] Mae'r adeilad presennol wedi'i chodi dros sawl canrif, gyda rhannau gorllewinol ohoni'n dyddio'n ôl i'r 1200au cynnar. Mae'r fynwent a'r lleoliad, fodd bynnag, yn llawer hŷn; gan ei bod yn gron, gwyddom ei bod yn fan addoli yng nghyfnod y Celtiaid.[3] Mae waliau'r rhan yma sy'n perthyn i'r Oesoedd Canol yn llawer mwy trwchus na'r gweddill, gan fod eu pwrpas yn amddiffynnol-filwrol. Yn y wal hon ceir ffenest rosyn gyda darlun o Grist y Brenin ynddi. Arferai'r ffenest hon oleu'r galeri yng nghefn yr egwys, ond mae honno wedi'i thynu i lawr ers tro.

Ceir yma fedyddfaen sydd wedi'i dyddio'n ôl i 1175.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. British Place Names; adalwyd 14 Hydref 2022
  2. Meliden yn Llyfr Dydd y Farn (Domesday Book)
  3. Nodiadau o daflen gan yr Eglwys yng Nghymru
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


pFad - Phonifier reborn

Pfad - The Proxy pFad of © 2024 Garber Painting. All rights reserved.

Note: This service is not intended for secure transactions such as banking, social media, email, or purchasing. Use at your own risk. We assume no liability whatsoever for broken pages.


Alternative Proxies:

Alternative Proxy

pFad Proxy

pFad v3 Proxy

pFad v4 Proxy