Gemau Olympaidd yr Haf 1952
Math o gyfrwng | Gemau Olympaidd yr Haf |
---|---|
Dyddiad | 1952 |
Dechreuwyd | 19 Gorffennaf 1952 |
Daeth i ben | 3 Awst 1952 |
Rhagflaenwyd gan | Gemau Olympaidd yr Haf 1948 |
Olynwyd gan | 1956 Summer Olympics |
Lleoliad | Helsinki Olympic Stadium, Helsinki |
Gwladwriaeth | Y Ffindir |
Gwefan | https://olympics.com/en/olympic-games/helsinki-1952 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cynhaliwyd Gemau Olympaidd yr Haf 1952 (Ffineg: Kesäolympialaiset 1952; Swedeg: Olympiska sommarspelen 1952), digwyddiad aml-chwaraeon a adnabyddir yn swyddogol fel Gemau'r XV Olympiad rhwng 14 Gorffennaf a 3 Awst yn Helsinki, Y Ffindir. Pan ymosododd Siapan ar Tsieina ym mis Gorffennaf 1937 cafodd y Gemau Olympaidd yr Haf 1940 eu symud i Helsinki, Y Ffindir ond yna fe'u canslwyd yn gyfan gwbwl wedi cychwyn yr Ail Ryfel Byd[1].
Helsinki ydi'r ddinas mwyaf gogleddol i gynnal Gemau Olympaidd yr Haf.
Dewis lleoliad
[golygu | golygu cod]Llwyddodd Helsinki i ennill yr hawl i gynnal y Gemau mewn pleidlais yng nghyfarfod y IOC ym Stockholm, Sweden ar 21 Mehefin 1947. Los Angeles a Minneapolis oedd yn ail yn y bleidlais gydag Amsterdam, Athen, Chicago, Detroit, Lausanne Philadelphia a Stockholm hefyd yn gwneud cais.[2]
Y Gemau
[golygu | golygu cod]Cafwyd athlewtwyr o 13 o wledydd am y tro cyntaf yng Ngemau Olympaidd 1952 gydag Antilles yr Iseldiroedd, Gana, Bahamas, Fietnam, Gwatemala Wlad Tai, Hong Cong, Indonesia, Israel, Nigeria Saarland Tseina a'r Undeb Sofietaidd yn cystadlu am y tro cyntaf.
Dychwelodd Yr Almaen a Siapan i'r Gemau ar ôl peidio cael gwahoddiad ym 1948 oherwydd eu rôl yn yr Ail Ryfel Byd. Roedd disgwyl i Orllewin yr Almaen a Dwyrain yr Almaen gystadlu fel un tîm ond ni chafwyd yr un athletwr o'r Dwyrain[1]. Dyma'r unig Gemau Olympaidd i Almaenwr fethu ag ennill medal aur[3].
Yn dilyn Rhyfel Cartref Tseina, tynnodd Gweriniaeth Tsieina (Taiwan) yn ôl rhag cystadlu yn y Gemau mewn protest i benderfyniad yr IOC i ganiatau athletwyr o Weriniaeth Pobl Tsieina i gystadlu[4].
Medalau'r Cymry
[golygu | golygu cod]Casglodd Syr Harry Llewellyn, Cymro o Aberdâr, fedal aur fel aelod o dîm Neidio ceffylau Peydain Fawr. Roedd hefyd wedi ennill medal efydd fel aelod o'r tîm Neidio ceffylau ym 1948.[5].
Llwyddodd John Disley a anewd yng Nghorris i ennill medal efydd yn y Ras ffos a pherth 3000 metr [6] gyda Graham Dadds o Abertawe a John Taylor o Glwb Hoci Y Rhyl yn ennill medal efydd fel rhan o dîm Hoci Prydain Fawr[7].
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "1952 Summer Olympic Games". Olympedia.
- ↑ "IOC VOTE HISTORY". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 May 2008. Cyrchwyd 11 June 2008.
- ↑ "Germany at the 1952 Summer Olympic Games". Olympedia.
- ↑ "On This Day: 1952: 20 July: Zatopek wins gold at Helsinki". BBC News. Cyrchwyd 16 September 2015.
- ↑ "Harry Llewellyn". Olympedia.
- ↑ "John Disley". Olympedia.
- ↑ "Great Britain at the 1952 Summer Olympics". Olympedia.