Gliese 581 c
Math o gyfrwng | planed allheulol |
---|---|
Màs | 0.02143 +0.00066 -0.0037 |
Dyddiad darganfod | 4 Ebrill 2007, Gorffennaf 2007 |
Cytser | Libra |
Echreiddiad orbital | 0.12 +0.12 -0.084 |
Paralacs (π) | 158.7492 ±0.052 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Gliese 581 c (sy'n cael ei ynganu fel: /ˈgliːzə/) yn blaned allheulol sy'n cylchu'r seren gorrach goch Gliese 581. Mae'n ymddangos ei bod mewn ardal breswyl yn y gofod o amgylch y seren, lle gallai tymheredd wyneb unrhyw blaned yno ganiatau presenoldeb dŵr hylifol. Mae'r blaned yn gymharol agos at y Ddaear, 20.5 blwyddyn goleuni (190 triliwn kilometr) i ffwrdd yng nghytser y Fantol. Gelwir y seren yn Gliese 581 yn ôl ei rhif yng Nghatalog Gliese o Sêr Cyfagos, a'r blaned ei hun yn Gliese 581 c am ei bod y drydedd agosaf i'r seren (ar raddfa a-b-c).
Darganfuwyd Gliese 581 c ar 4 Ebrill, 2007. Credir mai hi yw'r blaned allheulol gyntaf i'w darganfod gyda thymheredd sy'n agos i'r hyn a geir ar y Ddaear. Yn ogystal â hyn, hi yw'r lleiaf ei maint o'r planedau allheulol o amgylch seren 'prif gyfres' i gael ei darganfod hyd yn hyn. Mae dadl fawr ymlith seryddwyr a gwyddonwyr am y posiblrwydd fod bywyd a allai fod rhywbeth tebyg i'r hyn rydym ni'n ei adnabod ar y blaned "newydd" hon.
Mae gan y blaned y llysenw answyddogol Ymir.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) ESO 22/07 "Astronomers Find First Earth-like Planet in Habitable Zone" Archifwyd 2008-08-28 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Space.com: "Major Discovery: New Planet Could Harbor Water and Life"
- (Saesneg) Planed : Gl 581 c Archifwyd 2007-04-28 yn y Peiriant Wayback