Neidio i'r cynnwys

Gwasg Gomer

Oddi ar Wicipedia
Gwasg Gomer
Math o gyfrwnggwasg, cyhoeddwr, family business Edit this on Wikidata
Rhan oy fasnach lyfrau yng Nghymru Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1892 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganGwasg Aberystwyth Edit this on Wikidata
PerchennogTeulu Lewis, Gwasg Gomer Edit this on Wikidata
SylfaenyddJohn David Lewis Edit this on Wikidata
PencadlysLlandysul Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.gomer.co.uk Edit this on Wikidata

Mae Gwasg Gomer yn gwmni argraffu Cymreig. Ar un adeg roedd yn un o'r cyhoeddwyr llyfrau Cymraeg mwyaf yng Nghymru. Fe'i sefydlwyd ym 1908 gan yr argraffydd a chyhoeddwr John David Lewis (1859 - 1914), ar sail busnes argraffu a ddechreuwyd ganddo ym 1892 yn Llandysul, Ceredigion; mae'r wasg yn dal i gael ei rhedeg yn y pentref heddiw. Fe'i henwir ar ôl yr awdur Joseph Harris (Gomer) (1773-1825).

Ehangodd y wasg trwy brynu Gwasg Aberystwyth ym 1945. Dros y blynyddoedd mae enw Gwasg Gomer wedi bod yn gysylltiedig â rhai o awduron mwyaf llenyddiaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif, yn cynnwys D. J. Williams, T. Llew Jones, T. H. Parry-Williams, Islwyn Ffowc Elis, T. Rowland Hughes, Siân Lewis a Waldo Williams. Un o gymeriadau mwyaf poblogaidd y wasg yw Sali Mali.

Yn Medi 2019 cyhoeddwyd y byddai cwmni Gomer yn cau eu adran gyhoeddi ond yn parhau gyda'r gwaith argraffu. Roedd hyn yn nodi diwedd 127 mlynedd o gyhoeddi. Dywedodd rheolwr y cwmni, Jonathan Lewis, y byddai'r newid strategol hwn yn sicrhau dyfodol y staff o 55.[1] Yn 2021 cyhoeddwyd bod yr adran gyhoeddi wedi ei werthu i gwmniau Y Lolfa ac Atebol gan gynnwys catalog o dros 2,500 o lyfrau. Prynodd Y Lolfa y catalog o lyfrau i oedolion a rhan fwyaf o'r ffuglen gwreiddiol i blant. Prynodd Atebol yr holl lyfrau plant a chynnwys addysgiadol.[2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Cau adran gyhoeddi Gwasg Gomer yn llwyr , Golwg360, 10 Medi 2019. Cyrchwyd ar 11 Medi 2019.
  2. Welsh presses Y Lolfa and Atebol buy Gomer's publishing arm , The Bookseller, 14 Mai 2021. Cyrchwyd ar 18 Rhagfyr 2022.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
pFad - Phonifier reborn

Pfad - The Proxy pFad of © 2024 Garber Painting. All rights reserved.

Note: This service is not intended for secure transactions such as banking, social media, email, or purchasing. Use at your own risk. We assume no liability whatsoever for broken pages.


Alternative Proxies:

Alternative Proxy

pFad Proxy

pFad v3 Proxy

pFad v4 Proxy