Neidio i'r cynnwys

Gweriniaeth Pobl Wcráin

Oddi ar Wicipedia
Gweriniaeth Pobl Wcráin
Українська Народня Республіка
Ukrajinśka Narodnia Respublika
Ymreolaeth hunanddatganedig o fewn Gweriniaeth Rwsia (1917–1918)
Gwladwriaeth a gydnabuwyd gan rai (1918–1921)

 

1917–1921
Ebrill–Rhagfyr 1918: Y Wladwriaeth Wcreinaidd

 

 

Baner Arfbais
Anthem
Ще не вмерла України  (Wcreineg)
Shche ne vmerla Ukrainy  (trawslythreniad)
"ni fu dreng ar ogoniant Wcráin"
Location of Gweriniaeth Pobl Wcráin
Prifddinas Kiev
Ieithoedd Wcreineg (swyddogol)
Rwseg
Ieithoedd lleiafrifol: Iddew-Almaeneg, Pwyleg, Almaeneg, Belarwseg, Rwmaneg, Bwlgareg, Groeg, Urum ac eraill.
Crefydd
Llywodraeth Llywodraeth dros dro
Arlywydd
 -  1917–1918 Mykhailo Hrushevskyi
 -  1918–1925 Y Gyfarwyddiaeth
Arlywydd alltud
 -  1926–1954 Andriy Livytskyi
 -  1954–1965 Stepan Vytvytskyi
 -  1965–1989 Mykola Livytskyi
 -  1989–1992 Mykola Plaviuk
Deddfwrfa Y Rada Canolog (i Ebrill 1918)
Y Gyngres Lafur
Cyfnod hanesyddol Y Rhyfel Byd Cyntaf
 -  Sefydlwyd y weriniaeth 20 (7) Tachwedd 1917
 -  Annibyniaeth 22 (9) Ionawr 1918
 -  Y Wladwriaeth Wcreinaidd 29 Ebrill 1918
 -  Y Gyfarwyddiaeth 14 Rhagfyr 1918
 -  Heddwch Riga 18 Mawrth 1921
Arwynebedd
 -  1897 477,021 km² (184,179 sq mi)
Poblogaeth
 -  1897 amcan. 23,430,407 
     Dwysedd 49.1 /km²  (127.2 /sq mi)
Arian cyfred Karbovanets
Hryvnia
Heddiw'n rhan o

Gwladwriaeth a fodolai yn Nwyrain Ewrop o 1917 i 1921 oedd Gweriniaeth Pobl Wcráin (Wcreineg: Украінська Народня Республіка, УНР; Ukrajinśka Narodna Respublika, UNR). Sefydlwyd yn sgil Chwyldro Chwefror 1917 a chwymp Ymerodraeth Rwsia. Roedd ei ffiniau yn cyfateb yn fras i diriogaeth bresennol Wcráin, y Crimea a gorllewin Kuban yn Rwsia, a rhannau o dde Belarws, dwyrain Gwlad Pwyl, Slofacia, Moldofa, a Rwmania.

Ar 7 Tachwedd [20 Tachwedd yn yr Hen Ddull] 1917, cyhoeddwyd y Trydydd Gorchymyn Hollgyffredinol gan Rada Canolog Wcráin, yn sefydlu'r UNR yn nwyrain Wcráin, mewn ffederasiwn â Gweriniaeth Rwsia. Wedi i'r Bolsieficiaid gipio grym yn Rwsia yn Chwyldro Hydref 1917, goresgynnwyd Wcráin gan luoedd Rwsia a datganwyd annibyniaeth yr UNR gan y Rada ar 9 Ionawr [22 Ionawr yn yr Hen Ddull] 1918.[1]

Yn Chwefror 1918, arwyddwyd Cytundeb Brest-Litovsk gan yr UNR a fe'i cydnabuwyd yn wladwriaeth annibynnol gan y Pwerau Canolog yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Gyrrwyd y Bolsieficiaid ymaith gan luoedd yr Almaen ac Awstria-Hwngari, ond nid oedd yr Wcreiniaid yn cyflawni'r danfoniadau bwyd a gytunwyd dan delerau Brest-Litovsk. Yn sgil coup d'état Pavlo Skoropadsky yn Ebrill 1918, datganwyd y Wladwriaeth Wcreinaidd i olynu'r UNR.[1]

Adferwyd yr UNR dan lywodraeth y Gyfarwyddiaeth yn Rhagfyr 1918. Ar 22 Ionawr 1919, cyhoeddwyd Deddf Uno i ymgorffori tiriogaeth Gweriniaeth Pobl Gorllewin Wcráin yn rhan o'r UNR. Daeth yr UNR i ben yn niwedd Tachwedd 1920 yn sgil goresgyniad arall gan y Bolsieficiaid. Ffoes y Gyfarwyddiaeth a Chyngor Gweinidogion y Bobl, a fuont yn goroesi fel llywodraeth alltud nes 1992.[1]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 Ivan Katchanovski, Zenon E. Kohut, Bohdan Y. Nebesio, a Myroslav Yurkevich, Historical Dictionary of Ukraine (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2013), tt. 696–97.
pFad - Phonifier reborn

Pfad - The Proxy pFad of © 2024 Garber Painting. All rights reserved.

Note: This service is not intended for secure transactions such as banking, social media, email, or purchasing. Use at your own risk. We assume no liability whatsoever for broken pages.


Alternative Proxies:

Alternative Proxy

pFad Proxy

pFad v3 Proxy

pFad v4 Proxy