Neidio i'r cynnwys

Helen Glover

Oddi ar Wicipedia
Helen Glover
Ganwyd17 Mehefin 1986 Edit this on Wikidata
Truru Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cernyw Cernyw
Alma mater
Galwedigaethrhwyfwr Edit this on Wikidata
Taldra177 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau67 cilogram Edit this on Wikidata
PriodSteve Backshall Edit this on Wikidata
Gwobr/auMBE Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Rhwyfwr proffesiynol o Gernyw yw Helen Glover MBE (ganwyd 17 Mehefin 1986) sy'n aelod o Dîm Rhwyfo Prydain.[1] Rhwng 2015 a 2016 hi oedd rhwyfwr benywaidd rhif 1 y byd, ac mae hi'n bencampwr Olympaidd ddwywaith, yn bencampwr triphlyg y Byd, yn bencampwr Cwpan y Byd bedair gwaith ac yn bencampwr Ewropeaidd hefyd bedair gwaith. Hi a'i phartner Heather Stanning oedd deiliaid record y Byd, y Gemau Olympaidd, Cwpan y Byd ac Ewrop, ynghyd â'r pencampwyr Olympaidd, y Byd ac Ewrop ym mharau coxless y menywod. Bu hefyd yn bencampwr Prydain yn y gystadleuthau i bedair merch, ddwywaith.[2]

Yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2012, mewn partneriaeth â Heather Stanning, gosododd y record Olympaidd ac enillodd y fedal aur ym mharau coxless y menywod, y fedal aur agoriadol ac enillodd Tîm GB yn 2012 a’r fedal aur Olympaidd gyntaf am rwyfo menywod Prydain. Yn Rhagfyr 2012 enillodd gêm ar raglen Superstars Olympaidd y BBC.[3] Ym Mhencampwriaethau Rhwyfo'r Byd 2013 yn Ne Korea, daeth yn bencampwr y byd gyda'i phartner Polly Swann, ac enillodd Bencampwriaethau Rhwyfo Ewropeaidd 2014 yn Belgrade gyda hi ac felly hi oedd y fenyw gyntaf i gynnal y teitlau Olympaidd, Byd ac Ewropeaidd ar gyfer y pâr coxless. Cadwodd ei theitl byd a gosod yr record amser byd mewn partneriaeth â Heather Stanning ym Mhencampwriaethau Rhwyfo'r Byd 2014 yn Amsterdam.

Fe wnaethant gadw eu teitl byd ym Mhencampwriaethau Rhwyfo'r Byd 2015 yn Lac d'Aiguebelette, Ffrainc. Yn 2016, fe wnaethant gadw eu teitl Ewropeaidd yn Brandenburg an der Havel, gosod record amser Cwpan Rhwyfo'r Byd yn Poznan ac ennill medal aur eto yn y Gemau Olympaidd yn Rio de Janeiro . Ymddeolodd ar ôl y Gemau Olympaidd i ddechrau teulu.

Yn 2021 cyhoeddwyd ei bod wedi ailgychwyn hyfforddiant, ac ar 11 Ebrill adenillodd y teitl Pâr Coxless Ewropeaidd yn Varese gyda Polly Swann. Gorffennodd hi a Swann yn bedwerydd yng Ngemau Olympaidd yr Haf yn Tokyo, y fam gyntaf i rwyfo dros Brydain. Dywedodd Glover "Bydd pawb yn cofio blwyddyn y pandemig am eu rhesymau eu hunain, ond i dw i'n mynd i feddwl 'dyna'r flwyddyn a aeth â mi i Gemau Olympaidd arall' A dyna chi boncyrs!"

Bywyd cynnar

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Glover yn Ysbyty Treliske, Truru (Tryverow; Saesneg: Truro) i Rachel (née Tucker), ffisiotherapydd a hyfforddodd yn Ysbyty Guy, Llundain, a Jimmy Glover, athro ysgol a raddiodd ym Mhrifysgol Rhydychen. Fe’i magwyd ym Mhennsans mewn teulu athletaidd cystadleuol gyda’r brawd hŷn Benjamin, yr efaill iau Nathan a’r chwiorydd iau Ruth a Freya.

Mae ei thad yn athro ysgol wedi ymddeol a ddysgai Saesneg ac sydd, ers iddo ymddeol, yn werthwr hufen iâ. Dechreuwyd 'Jelbert's Ices' o Newlyn gan hen dad-cu Glover. Roedd ei thad yn chwaraewr chwaraeon cyffredinol a chwaraeodd denis yn Junior Wimbledon, pêl -droed i Penzance 'Magpies' FC ac roedd yn gapten ar dîm rygbi Penzance Pirates. Bu hefyd yn gapten ar Brifysgol Rhydychen yng Ngêm Varsity 1960 ac yn erbyn De Affrica; gwnaeth 199 ymddangosiad i Fryste; chwaraeodd i 'Devon & Cornwall' yn erbyn yr 'All Blacks'; chwaraeodd i'r Barbariaid; a bu'n gapten ar Gernyw ym Mhencampwriaeth y Sir gan ennill 41 o gapiau.[4][5][6]

Addysg

[golygu | golygu cod]

Addysgwyd Glover yn Ysgol Gynradd Gymunedol Heamoor (Cernyweg: An Hay) ac Ysgol Humphry Davy ym Mhennsans,[7][8] Enillodd ysgoloriaeth chwaraeon i Ysgol Millfield yng Ngwlad yr Haf rhwng 2002 a 2004 oherwydd ei gallu rhedeg a hoci.[9] Cymerodd ran mewn amryw o chwaraeon: fel merch iau roedd hi'n rhedeg trac traws gwlad a phellter canol i Gernyw ac yn rhyngwladol i Loegr, gan ennill medal aur rhyngwladol iau i Loegr mewn rhedeg traws gwlad; chwaraeodd dennis i Gernyw; nofiodd i Gernyw; hi oedd capten tîm hoci Cernyw; ac erbyn 14 oed roedd yn rhan o Sgwad Lloeren Lloegr ar gyfer hoci. Ei safleoedd athletau gorau yn y DU oedd 23ain am 800 metr, 9fed am 1500 metr a 18fed am 3000 metr.[3][10][11][12][13][14][15][16]

Dywedodd ei chyn-athrawes AG, Kate Finch: "Roedd ganddi bob amser ddawn ryfeddol, roedd yn gwbl ymroddedig ac yn gwbl ddibynadwy bob amser. Os gwyddoch fodHelen mewn unrhyw dîm, gwyddoch eich bod yn ddiogel! Cymerodd ran ym mhopeth ond yn rhagori mewn hoci a thraws gwlad. Roedd Helen mor weithgar ac roedd mor hawdd mynd ati. Pe byddech chi'n gofyn iddi wneud rhywbeth, byddai'n ei wneud." [17]

Meddai Glover, "Pan oeddwn i yn yr ysgol roeddwn yn eithaf cryf fy meddwl, dechreuais dimau chwaraeon, a chwaraeais yn nhîm pêl-droed y bechgyn. Ni fyddwn yn gadael i unrhyw un ddweud wrthyf na allwn wneud unrhyw beth".[18]

Mynychodd Brifysgol Fetropolitan Caerdydd lle astudiodd Chwaraeon ac Ymarfer Corff, ac yna astudiodd ar gyfer tystysgrif addysg TAR yng Ngholeg Prifysgol Plymouth St Mark & St John, er mwyn dysgu addysg gorfforol i blant ysgol uwchradd.

Yng Ngorffennaf 2008, rhwng graddio o Brifysgol Cymru a dechrau yng Ngholeg Prifysgol Plymouth, gwnaeth Glover, yn ôl awgrym ei mam, gais i'r cynllun Sporting Giants, lle cafodd ei rhoi ar raglen "Start" Tîm Rhwyfo Prydain o dan yr hyfforddwr Paul Stannard yng Nghlwb Rhwyfo Minerva Bath yng Nghaerfaddon, Gwlad yr Haf. Felly, wrth fynd i Goleg y Brifysgol yn Plymouth (Aberplym), trosglwyddodd ei 'lleoliad dysgu' i Ysgol Oldfield, Caerfaddon. Ar ôl ennill aur yn y Gemau Olympaidd cyfaddefodd ei bod wedi cyflawni maen prawf Sporting Giant o 5 troedfedd ac 11 modfedd (1.80 metr). trwy sefyll ar flaenau ei thraed pan gafodd ei mesur. Mae ei thaldra'n 5 troedfedd a 10 modfedd (1.78 m).[1][19][20][21][22][23][24]

Roedd hi'n bedwerydd ym Mhencampwriaethau Rhwyfo Dan Do Prydain ar 26 Hydref 2008.[25]

Yn 2009, enillodd Dlws Bernard Churcher yn y gystadleuaeth single scull sengl hŷn yn Regata Merched Henley.[26]

Yn Chwefror 2010, rhoddodd Glover y gorau i'w swydd dysgu a byw heb unrhyw incwm wrth ganolbwyntio'n llwyr ar hyfforddi ar gyfer y treialon dewis tîm cenedlaethol. Ym Mawrth, rhwyfodd gyda tim o wyth, Phrifysgol Reading, a gorffen yn drydydd yn Ras Head of the River Wyth-Merch. Yn Ebrill gorffennodd yn 5ed yn Nhreialon Hŷn Tîm Rhwyfo Prydain Fawr, ac enillodd le ar y tîm. Enillodd arian y Loteri a chafodd ei pharu â Heather Stanning ym mhâr coxless y menywod.[27] Ym Mai yng Nghwpan Rhwyfo'r Byd yn Bled fe gorffenodd yn 9fed, ac ym Mehefin fe orffenodd yn 5ed ym Munich, ond ni lwyddon nhw i rasio yn Lucerne yng Ngorffennaf oherwydd salwch Glover.

Dechreuodd Robin Williams hyfforddi Glover a Stanning yng Ngorffennaf pan oeddent yn 16ed ac 17ed yn eu digwyddiad, ac roeddent hefyd yn cael eu hystyried yn gronfeydd 'wrth gefn' i'r tim wyth-menyw. Enillon nhw fedal arian ym Mhencampwriaethau Rhwyfo'r Byd 2010 yn Lake Karapiro yn Seland Newydd, gan orffen yn 7: 20.24 - tair eiliad y tu ôl i Juliette Haigh a Rebecca Scown o Seland Newydd.[1][28][29]

Helen Glover a Heather Stanning yn Dorney Lake yn ystod Gemau Olympaidd yr Haf 2012 .

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Ar 16 Medi 2015, cyhoeddodd Glover a’r naturiaethwr teledu Steve Backshall eu dyweddïad ar Twitter o Namibia, ar ôl cyfarfod mewn digwyddiad Sport Relief yn 2014.[30][31][32] Fe briodon nhw ar 10 Medi 2016 yn Piskies Cove yng Nghernyw.[33]

Ar 13 Mawrth 2018 cyhoeddwyd bod Backshall a Glover yn disgwyl efeilliaid.[34] Ar 9 Ebrill nododd Glover fod un o’r efeilliaid wedi marw, ond ei bod hi a Backshall yn “obeithiol i’r babi oedd yn weddill gyrraedd yr haf hwn”.[35] Ar 24 Gorffennaf 2018 cyhoeddodd ar y cyfryngau cymdeithasol ei bod wedi rhoi genedigaeth i fachgen.[36] Ar 16 Ionawr 2020 esgorodd ar efeilliaid (bachgen a merch).[37]

Ymddangosiad cyfryngau

[golygu | golygu cod]

Glover oedd canolbwynt rhaglen ddogfen deledu’r BBC , Helen Glover: Mother Of All Comebacks, a ddarlledwyd ar 19 Gorffennaf 2021, cyn Gemau Olympaidd 2020 Tokyo. Roedd yn dychwelyd i hyfforddi, ar ôl cael plant a phedair blynedd allan o'r gamp.[38]

Anrhydeddau

[golygu | golygu cod]

Penodwyd Glover yn Aelod o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (MBE) yn Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2013 am wasanaethau i rwyfo, a dderbyniodd gan y Frenhines o Loegr yng Nghastell Windsor ar 10 Ebrill 2013.[39]

Ym mis Awst 2012, nodwyd ei buddugoliaeth Olympaidd gan y Post Brenhinol a gyhoeddodd stamp post coffa a phaentiwyd blwch post yn aur ar Quay Street, Pennsans (50°06′58″N 5°31′52″W / 50.1161°N 5.5310°W / 50.1161; -5.5310 (Helen Glover, Penzance) ).[40][41]

Ar 27 Mawrth 2016, cyflwynwyd i Glover a Stanning dlysau enillwyr i griwiau dynion Caergrawnt a Rhydychen yn Ras Gychod Rhydychen a Chaergrawnt.

Mae Glover, ynghyd â'i gŵr Steve Backshall, yn llysgennad i'r Sgowtiaid .

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 "Helen Glover". Biographies. British Rowing. Cyrchwyd 1 August 2012.
  2. "Lima crew take quads gold as poor weather interrupts British Rowing Championshipnowikis".
  3. 3.0 3.1 "Olympians Anthony Joshua and Helen Glover crowned champions of Superstars".
  4. "WAITING FOR THE 28 CARAT GOLD FAIRY HELEN? – Cornwall Community News". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-11-07. Cyrchwyd 2021-08-21.
  5. "Father pays tribute to Helen's work ethic". 23 August 2012.[dolen farw]
  6. "Penzance Olympic gold medal winner Helen Glover thanks supporters". 3 August 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-06. Cyrchwyd 2021-08-21.
  7. Davies, Interview: Gareth A. "Helen Glover, Olympic gold rower: my school sport".
  8. "Olympic gold rower Helen Glover's 'phenomenal talent'". BBC. Cyrchwyd 1 August 2012.
  9. "Old Millfieldian Society, OM of the Year 2012, Profile of Helen Glover". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 January 2013. Cyrchwyd 8 February 2013.
  10. "Helen Glover". London 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 January 2013. Cyrchwyd 1 August 2012.
  11. "Team GB Olympic Gold medallist unearthed by UK Sport's Talent scheme". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-08-29. Cyrchwyd 2021-07-24.
  12. "Cornwall Athletic Club – Hall of Fame".
  13. "Helen GLOVER - worldrowing.com".
  14. "Athlete Profile".
  15. "English Institute of Sport, Helen Glover: From Raw Talent to Serial Gold Medallist". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 September 2014. Cyrchwyd 2 September 2014.
  16. "Absolutely brilliant gold medal performance in the rowing from former CAC athlete Helen Glover at the London Olympics – Cornwall Athletic Club News". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-10-19. Cyrchwyd 2021-07-24.
  17. "Olympic gold rower Helen Glover's 'phenomenal talent'". 1 August 2012.
  18. "Olympic gold medallist Helen Glover: Young girls face 'peer pressure' to drop out of sport".
  19. "Olympic rower Helen Glover returns to Oldfield School to open sports centre". Bath Chronicle. 26 November 2012. Cyrchwyd 2 December 2012.
  20. "Helen is rowing for Minerva".
  21. "Helen Glover – Team Bath". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-07-23. Cyrchwyd 2021-08-21.
  22. "404 – UK Sport". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-07-10. Cyrchwyd 2021-08-21.
  23. "Start – British Rowing". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-01-01. Cyrchwyd 2021-08-21.
  24. "Listen again to @Helenglovergb talking about her childhood in Cornwall". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-04-27. Cyrchwyd 2021-08-21.
  25. "British Indoor Rowing Championships – BIRC 2008". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 July 2013. Cyrchwyd 28 July 2013.
  26. www.digitalvirtue.com, Digital Virtue – w. "HWR – Previous Winners". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 July 2013. Cyrchwyd 10 July 2013.
  27. "For Olympic rowing champion Helen Glover, her golden season continues at the Head of the Charles Regatta".
  28. "Interview – Team GB rowing coach Robin Williams". 18 November 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 September 2013. Cyrchwyd 3 September 2013.
  29. "Henley on Thames News – Rowing coach with the golden touch". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 July 2014.
  30. "Steve Backshall and Helen Glover engaged".
  31. "Helen Glover and Steve Backshall announce engagement".
  32. "Steve Backshall and Helen Glover must be Britain's fittest couple – but who's tougher?".
  33. Rainbird, Ashleigh (12 September 2016). "Olympic hero Helen Glover and Steve Backshall ROCK in clifftop wedding pics".
  34. "Team GB rowing star Helen Glover pregnant with twins". BBC News. 2018-03-13. Cyrchwyd 2018-03-13.
  35. "Olympic rower Helen Glover loses unborn twin". BBC. 9 April 2018. Cyrchwyd 9 April 2018.
  36. "Olympic rower Helen Glover and husband Steve Backshall have boy". BBC News (yn Saesneg). 2018-07-24. Cyrchwyd 2021-07-24.
  37. "SURPRISE! Helen Glover and Steve Backshall welcome TWINS - see photo". HELLO! (yn Saesneg). 17 January 2020. Cyrchwyd 17 January 2020.
  38. BBC TV, 2021 July 19, Mother of All Comebacks
  39. "2013 New Year's Honours" (PDF). Cyrchwyd 29 December 2012.
  40. Administrator, birminghammail (2 August 2012). "Olympics 2012: Royal Mail unveils special stamps to celebrate GB gold medal winners".
  41. "Penzance post box painted gold for Olympian Helen Glover". BBC. 2 August 2012.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
pFad - Phonifier reborn

Pfad - The Proxy pFad of © 2024 Garber Painting. All rights reserved.

Note: This service is not intended for secure transactions such as banking, social media, email, or purchasing. Use at your own risk. We assume no liability whatsoever for broken pages.


Alternative Proxies:

Alternative Proxy

pFad Proxy

pFad v3 Proxy

pFad v4 Proxy