Neidio i'r cynnwys

Ian Rush

Oddi ar Wicipedia
Ian Rush

Ian Rush
Gwybodaeth Bersonol
Enw llawnIan James Rush
Dyddiad geni (1961-10-20) 20 Hydref 1961 (63 oed)
Man geniLlanelwy, Cymru
Taldra5 tr 11 modf
SafleYmosodwr
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
1978–1980Dinas Caer34(14)
1980–1987Lerpwl224(139)
1987–1988Juventus29(7)
1988–1996Lerpwl245(90)
1996–1997Leeds United42(3)
1997–1998Newcastle United10(2)
1998Sheffield United (ar fenthyg)4(0)
1998–1999Wrecsam17(0)
1999–2000Sydney Olympic3(1)
Cyfanswm602(256)
Tîm Cenedlaethol
1980–1996Cymru[1]73(28)
Timau a Reolwyd
2004–2005Dinas Caer
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd..
† Ymddangosiadau (Goliau).

Cyn bêl-droediwr Cymreig yw Ian James Rush MBE (ganwyd 20 Hydref 1961). Chwaraeodd Rush i Lerpwl rhwng 1980-1987 a 1988-1996 ac mae'n brif sgoriwr yn holl hanes y clwb[2] wedi iddo rwydo 346 gôl yn ystod ei ddau gyfnod gyda'r clwb.

Yn ogystal â Lerpwl, chwaraeodd Rush dros Caer, Juventus, Leeds United, Newcastle United, Sheffield United, Wrecsam a Sydney Olympic.

Chwaraeodd 73 o weithiau dros dîm cenedlaethol Cymru a Rush yw'r prif sgoriwr yn holl hanes y tîm cenedlaethol gyda 28 gôl rhwng 1980 a 1996[3].

Ar ôl ymddeol fel chwaraewr yn 2000, cafodd gyfnod yn rheoli Caer rhwng 2004-05 ac mae o bellach yn Gyfarwyddwr Perfformiad Elît i Ymddiriedolaeth Pêl-droed Cymru[4].

Ar 25 Ebrill 2019 cyhoeddwyd bod stadiwm pêl-droed yn Lahore, Pakistan i gael ei enwi'n Stadiwm Ian Rush er anrhydedd i'r chwaraewr.[5]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Alpuin, Luis Fernando Passo (20 February 2009). "Wales – Record International Players". Rec.Sport.Soccer Statistics Foundation. Cyrchwyd 5 August 2012.
  2. "Liverpool FC Records: Goals". Unknown parameter |published= ignored (help)
  3. "Welsh Football Online: Records". Unknown parameter |published= ignored (help)
  4. "Welcome from Ian Rush". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-07-25. Cyrchwyd 2015-05-26. Unknown parameter |published= ignored (help)
  5. Liverpool Echo Liverpool legend Ian Rush has football stadium named after him adalwyd 25 Ebrill 2019
Rhagflaenydd:
Ian Woosnam
Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru
1984
Olynydd:
Steve Jones

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
pFad - Phonifier reborn

Pfad - The Proxy pFad of © 2024 Garber Painting. All rights reserved.

Note: This service is not intended for secure transactions such as banking, social media, email, or purchasing. Use at your own risk. We assume no liability whatsoever for broken pages.


Alternative Proxies:

Alternative Proxy

pFad Proxy

pFad v3 Proxy

pFad v4 Proxy