Neidio i'r cynnwys

Idwal Jones (1895–1937)

Oddi ar Wicipedia
Idwal Jones
Ganwyd8 Mehefin 1895 Edit this on Wikidata
Llanbedr Pont Steffan Edit this on Wikidata
Bu farw1937 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Plac i Idwal Jones ac i Waldo Williams yn 56, Stryd Cambria, Aberystwyth lle buont yn preswylio

Llenor a digrifwr o Geredigion oedd Idwal Jones (8 Mehefin 189518 Mai 1937). Roedd yn gymeriad ffraeth a fu'n adnabyddus am ei ddramâu a'i gerddi digrif.

Brodor o Lanbedr Pont Steffan, Ceredigion oedd Idwal Jones. Cafodd yrfa amrywiol gan weithio fel clerc, ysgolfeistr a darlithydd. Gwasanaethodd yn y fyddin yn Nwyrain Affrica yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Aeth i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth ar ôl y rhyfel a chafodd radd mewn Saesneg. Ar ôl cyfnod fel ysgolfeistr ym Mhontarfynach cafodd swydd fel Darlithydd Efrydiau Allanol.

Ei waith pwysicaf efallai yw'r ddrama Pobl yr Ymylon, sy'n ddychan ar barchusrwydd a snobyddiaeth.

Ceir cofiant iddo gan D. Gwenallt Jones (1958).

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
pFad - Phonifier reborn

Pfad - The Proxy pFad of © 2024 Garber Painting. All rights reserved.

Note: This service is not intended for secure transactions such as banking, social media, email, or purchasing. Use at your own risk. We assume no liability whatsoever for broken pages.


Alternative Proxies:

Alternative Proxy

pFad Proxy

pFad v3 Proxy

pFad v4 Proxy