Ifan Gruffydd (digrifwr)
Ifan Gruffydd | |
---|---|
Ganwyd | 20 Awst 1951 Aberystwyth |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | digrifwr, actor teledu, ffermwr |
Digrifwr a ffarmwr yw Ifan Gruffydd, neu Ifan Tregaron (ganwyd 20 Awst 1951). Mae'n adnabyddus am lywio nosweithiau adloniant gyda'r Ffermwyr Ifanc a Noson Lawen ar deledu, ac am ei gymeriad diniwed 'Idwal'.
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd Ifan Gruffydd yn ysbyty Aberystwyth a fe'i magwyd ar fferm Cefn 'Resgair Fawr ger Tregaron yng Ngheredigion. Mae'n rhannu ei amser rhwng y gwaith ffermio gyda'i waith fel diddanwr mewn cyngherddau byw ac ar y teledu. Mae'n briod gyda Dilys ac yn byw ar fferm 'Y Border Bach' ar gyrion Tregaron.
Fe berfformiodd gyntaf gyda'r Clwb Ffermwyr Ifanc a chymerodd ran ym mhantomeim Theatr Felinfach, lle cyfarfu Euros Lewis a ddaeth yn ddiweddarach yn gyd-awdur ar ei waith teledu.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Yn 1984, cafodd wahoddiad gan gwmni cynhyrchu Teledu'r Tir Glas i ymddangos ar eu rhaglen Noson Lawen ac fe ddatblygodd ei yrfa ar deledu a radio o hynny ymlaen.
Bu'n ysgrifennu a pherfformio mewn rhaglenni comedi ar S4C fel Nyth Cacwn, Y Ferch Drws Nesa a rhaglen ei hun Ma' Ifan 'Ma. Ar BBC Radio Cymru bu'n cyfrannu i raglenni fel 'Pwlffacan a Dros Ben Llestri.[1]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Hiwmor Ifan Tregaron, Tachwedd 2006, (Y Lolfa), ISBN 9780862439361
- Pwy Faga Ddefed?, Tachwedd 2010, (Y Lolfa), ISBN 9781847712899