Neidio i'r cynnwys

Instituto Cervantes

Oddi ar Wicipedia
Instituto Cervantes
Math o gyfrwngsefydliad diwylliannol, sefydliad addysgiadol, endid tiriogaethol dynol-ddaearyddol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1991 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysInstituto Cervantes, Berlin Edit this on Wikidata
Pennaeth y sefydliadcyfarwyddwr Instituto Cervantes Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolEuropean Union National Institutes for Culture Edit this on Wikidata
Isgwmni/auInstituto Cervantes de Varsovia, Instituto Cervantes de Cracovia, Instituto Cervantes Tokio, Instituto Cervantes, Berlin, Instituto Cervantes de Budapest, Instituto Cervantes de Salvador de Bahía, Instituto Cervantes of Manila, Biblioteca María Zambrano. Instituto Cervantes di Roma, Instituto Cervantes de Pekin, Instituto Cervantes de Shanghai, Instituto Cervantes Praga Edit this on Wikidata
Rhiant sefydliadSecretariat of State for International Cooperation Edit this on Wikidata
PencadlysMadrid Edit this on Wikidata
Enw brodorolInstituto Cervantes Edit this on Wikidata
RhanbarthMadrid Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.cervantes.org Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Instituto Cervantes (;Sefydliad Cervantes;) yn sefydliad dielw byd-eang a grëwyd gan lywodraeth Sbaen yn 1991.[1] Fe'i enwir ar ôl Miguel de Cervantes (1547-1616), awdur Don Quixote ac efallai'r ffigwr pwysicaf yn hanes llenyddiaeth Sbaeneg. Sefydliad Cervantes yw'r sefydliad mwyaf yn y byd sy'n gyfrifol am hyrwyddo astudio a dysgu iaith a diwylliant Sbaeneg. Mae'r sefydliad yn aelod o'r European Union National Institutes for Culture.

Ni cheir cangen o'r sefydliad yng Nghymru. Mae'r canghennau Prydeinig yn Llundain, Leeds a Manceinion.

Crynodeb

[golygu | golygu cod]

Mae'r sefydliad hwn wedi ehangu i 45 o wledydd gyda 88 o ganolfannau wedi'u neilltuo i ddiwylliant Sbaenaidd ac America Sbaenaidd ac iaith Sbaeneg.[2] Creodd Erthygl 3 o Gyfraith 7/1991, ar 21 Mawrth 1991, yr Instituto Cervantes fel asiantaeth y llywodraeth. Mae'r gyfraith yn egluro mai nodau eithaf y Sefydliad yw hyrwyddo addysg, astudio a defnyddio Sbaeneg yn gyffredinol fel ail iaith; cefnogi'r dulliau a'r gweithgareddau a fyddai'n helpu'r broses o addysg Sbaeneg, a chyfrannu at hyrwyddo diwylliannau Sbaenaidd ac America Sbaenaidd ar draws gwledydd di-Sbaeneg.[3][4]

Swyddogaethau

[golygu | golygu cod]
Logo yr Istituto gydag argraffiad o'r diacritig nodweddiadol i'r orgraff Sbaeneg, y tilde

Swyddogaethau a gwasanaethau Sefydliad Cervantes yw:

  • Cynllunio cyrsiau iaith Sbaeneg, gan gynnig dau fath o gwrs: cyffredinol ac arbennig.
  • Cynnig arholiadau Diplomâu Sbaeneg fel Iaith Dramor (DELE) ar ran Gweinyddiaeth Addysg Sbaen. Mae hwn yn gymhwyster swyddogol sy'n ardystio lefelau cymhwysedd yn yr iaith Sbaeneg, a dyma'r unig dystysgrif ar gyfer siaradwyr Sbaeneg anfrodorol sy'n cael ei chydnabod yn swyddogol yn Sbaen. Rhennir y diplomâu yn chwe lefel, pob un yn cyfateb i lefel hyfedredd arbennig fel y disgrifir gan y Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Ieithoedd: A1, A2, B1, B2, C1, C2.
  • Gwella dulliau addysg Sbaeneg.
    • Amgylchedd dysgu Sbaeneg ar-lein Ex) AVE (Aula Virtual de Español)[5]
    • Creu amgylchedd cymdeithasol, diwylliannol ac addysgol ym mhob canolfan[5]
    • Cynllun myfyriwr-ganolog, yn canolbwyntio ar y deialogau rhwng athro a myfyriwr ynghylch amcanion a chynnwys[5]
  • Mae'n cefnogi Sbaenwyr a "Hispaniaeth", sef yr astudiaeth o ddiwylliant Sbaen ac America Sbaenaidd.
    • Noddi darlithoedd, cyflwyniadau llyfrau, cyngherddau, arddangosfeydd celf, Gŵyl Ffilm Sbaen a Gŵyl Fflamenco. Cefnogir gan sefydliadau a chymunedau eraill.[2]
  • Trefnu ac yn hyrwyddo'r rhaglen i ledaenu'r iaith Sbaeneg ledled y byd.
    • Gweithio gyda radio a theledu cenedlaethol Sbaen i ddarparu cyrsiau iaith Sbaeneg.[5]
    • Cyhoeddiadau, llyfryddiaethau ar-lein, daliadau llyfrgell, cynnal cynadleddau mawr ar gyflwr yr iaith Sbaeneg.[5]
  • Mae'n gweinyddu'r arholiadau Gwybodaeth Gyfansoddiadol a Chymdeithasol o Sbaen (CCSE) ledled y byd, sy'n ofyniad cyfreithiol ar gyfer caffael cenedligrwydd Sbaenaidd.
  • Mae'n sefydlu llyfrgelloedd a chanolfannau.
  • Mae hefyd yn cyhoeddi'r Anuario del español i ddadansoddi ac adrodd ar sefyllfa a datblygiad yr iaith Sbaeneg mewn gwahanol leoedd.
  • Mae'n cefnogi'r Centro Virtual Cervantes ar y rhyngrwyd ers 1997.

Diplomâu Iaith Sbaeneg

[golygu | golygu cod]

Y Diploma Iaith Sbaeneg, DELE, yw'r dystysgrif swyddogol gyda chydnabyddiaeth ryngwladol sy'n ardystio gwybodaeth o Sbaeneg fel iaith dramor. Fe'i cyhoeddir gan yr Instituto Cervantes ar ran Gweinyddiaeth Addysg Sbaen.

Cydnabyddiaeth

[golygu | golygu cod]

Yn 2005, ynghyd â'r Alliance française, y Società Dante Alighieri, y Cyngor Prydeinig, y Goethe-Institut, a'r Instituto Camões, dyfarnwyd Gwobr Tywysog Asturias i'r Instituto Cervantes am gyflawniadau eithriadol ym maes cyfathrebu a dyniaethau.

Lleoliadau byd-eang

[golygu | golygu cod]
Efrog Newydd
Instituto Cervantes Delhi facade
Paris
München
Warsaw

Mae’r Instituto Cervantes wedi datblygu ei brosiect addysgol ar system o sefydliadau a chanolfannau lleol:

  1. Centros Cervantes (canolfannau llawn)
  2. Aulas Cervantes ("darlithfaoedd" llai)
  3. Rhwydwaith Centros Acreditados a Centros Asociados

Mae rhestr gynrychioliadol yn dilyn, ac mae'r rhestr ddiweddaraf a chyflawn i'w gweld yn www.cervantes.es.

Sefydliadau hyrwyddo iaith a diwylliant ryngwladol eraill

[golygu | golygu cod]

Mae Instituto Cervantes yn debyg i sawl sefydliad gan genedl wladwriaethau eraill er mwyn hyrwyddo diwylliant, iaith a buddion eu gwledydd. Y Basgwyr (gydag Etxepare Euskal Institutua ) a'r Catalaniaid (gyda Institut Ramon Llull) yw'r unig ddau genedl ddi-wladwriaeth sydd â sefydliad mor soffistigedig a strategol. Hyd yma, nid yw Cymru wedi gweld yn dda i sefydlu asiantaeth debyg.

Asiantaethau

[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. [1] Archifwyd Rhagfyr 14, 2007, yn y Peiriant Wayback
  2. 2.0 2.1 "Cervantes homepage". Cervantes.es. Cyrchwyd 2015-08-01.
  3. "Instituto Cervantes: Spain's Language and Cultural Center | Manila Bulletin". Mb.com.ph. 2005-08-25. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-09-08. Cyrchwyd 2012-06-10.
  4. "Instituto Cervantes celebrates its 15th year | Manila Bulletin". Mb.com.ph. 2007-11-06. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-09-04. Cyrchwyd 2012-06-10.
  5. 5.0 5.1 5.2 5.3 5.4 "Thinkspain News Feed". Thinkspain.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-02-06. Cyrchwyd 2012-06-10.
  6. "Instituto Cervantes Hong Kong | Cervantes Institute HK | Spanish…". Spanish World Hong Kong (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-06-10.
  7. "Cervantes Quality Seal | Only Spanish Learning Center in Singapore". Spanish World Singapore (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-06-10.
  8. [2][dolen farw]
  9. [3] Archifwyd Rhagfyr 11, 2009, yn y Peiriant Wayback

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Eginyn erthygl sydd uchod am gysylltiadau rhyngwladol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am Sbaen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
pFad - Phonifier reborn

Pfad - The Proxy pFad of © 2024 Garber Painting. All rights reserved.

Note: This service is not intended for secure transactions such as banking, social media, email, or purchasing. Use at your own risk. We assume no liability whatsoever for broken pages.


Alternative Proxies:

Alternative Proxy

pFad Proxy

pFad v3 Proxy

pFad v4 Proxy