Järvenpää
Math | dinas, bwrdeistref y Ffindir |
---|---|
Poblogaeth | 46,490 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Iiris Laukkanen |
Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00 |
Gefeilldref/i | Vác, Buchholz in der Nordheide, Pasadena, Täby Municipality, Sir Jõgeva, Lørenskog, Rødovre Municipality, Volkhov |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Ffinneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Helsinki metropolitan area |
Sir | Uusimaa |
Gwlad | Y Ffindir |
Arwynebedd | 37.54 km² |
Yn ffinio gyda | Mäntsälä, Sipoo, Tuusula |
Cyfesurynnau | 60.4722°N 25.0889°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Cyngor Dinas Järvenpää |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | maer |
Pennaeth y Llywodraeth | Iiris Laukkanen |
Järvenpää (ynganiad Estoneg: [ˈjærʋemˌpæː]; Swedeg: Träskända) yn dref a dinesig o'r Ffindir.
Hanes
[golygu | golygu cod]Gwahanwyd Järvenpää oddi wrth ei riant gymuned Tuusula yn 1951a rhoddwyd y statws o dref farchnad (kauppala) iddi ar ôl y gwahanu. Ni ychwanegwyd ardaloedd cyfagos Kellokoski a Nummenkylä at ddref Järvenpää ar y pryd, ac mae'r ddadl dros y mater yn dal yn codi pwysedd gwaed hanner can mlynedd yn ddiweddarach. Parhaodd Kellokoski i fod yn rhan o fwrdeistref Tuusula. Rhoddwyd statws cyfreithiol tref (kaupunki) i Järvenpää 1967.
Daearyddiaeth
[golygu | golygu cod]Lleolir Järvenpää tus 37 km (23 milltir) i'r gogledd o Helsinki ar hyd rheilffordd Helsinki–Riihimäki, yn gyfagos i'r dinasoedd Tuusula, Sipoo a Mäntsälä. Mae pobl hefyd yn cyfeirio at Kerava fel cymydog agos i Järvenpää, ond mewn gwirionnedd mewn gwirionedd nid ydynt yn rhannu ffin gan fod llain eang o dir yn sefyll rhyngddynt.
Trafnidiaeth
[golygu | golygu cod]Mae'r rheilffordd yn mynd trwy ganol y dref. Yn o gystal â'r brif orsaf reilffordd Järvenpää, mae gorsafoedd cyfagos sef Kyrölä, Saunakallio, Haarajoki a Purola yn gwasanaethu'r ddinas.
Mae'r siwrna i Helsinki yn cymeryd tua hanner awr, p'un ai ar y trên neu ar y ffordd, a thua 20 munud i faes awyr Helsinki-Vantaa. Mae cysylltiadau trên i'r brif ddinas yn dda. O Uusimaa mae trenau yn gadael y brif orsaf ddwywaith awr (xx:14 a xx:41), ac o orsafoedd eraill unwaith yn awr.[1]
Diwylliant
[golygu | golygu cod]Caiff Järvenpää ei adnabod yn eang am leoliad Ainola, cartref y cyfansoddwr Jean Sibelius. Mae wedi ei lleoli tua dwy cilomedr i'r de o ganol y dref. Symudodd y cyfansoddwr a'i deulu i'r bwthyn yma a gynllunwyd gan Lars Sonck ar yr 24 o Fedi, 1904, a bu'n byw yno tan ei farwolaeth ym 1957. Mae Ainola ar agor i ymwelwyr yn ystod misoedd yr haf fel "Amgueddfa Sibelius".
Symudodd Juhani Aho a'i wraig Venny Soldan-Brofeldt i Järvenpää yn 1897. Byddent iddynt fyw mewn bwthyn yno o'r enw Vårbacka, nesaf at lan Llyn Tuusula am 14 mlynedd. Fe ail-enwid y bwthyn yn ddiweddarach yn Ahola.
Digwyddiadau
[golygu | golygu cod]Cynhelir digwyddiadau yn y Järvenpää-talo (yn llythrennol Tŷ-Järvenpää) drwy gydol y flwyddyn: cyngherddau, theatr a sioeau celf. Mae plant yn hoffi chwarae yng nghartref Pikku-Aino, lle gallent hefyd wneud sioeau ac yn y blaen.
Mae digwyddiad cerddorol, sy'n cael ei drefnu bob blwyddyn, a elwir yn fi (Puistoblues ) (yn llythrennol 'Melanganeon y Parc'). Mae 'Wythnos y Melanganeon' yn dechrau o 'Stryd y Melaganeon' o ganol y ddinas, ac fe drefnir cyngherddau a sesiynau anffurfiol mewn tafarndai a thai bwyta. Mae'r brif gyngerdd ar ddiwedd 'Wythnos y Melanganeon', a gaiff ei drefnu yn Vanhankylänniemi ar y Dydd Sadwrn.
Ardaloedd
[golygu | golygu cod]Mae Järvenpää wedi ei rannu'n 25 ardal:
1. Wärtsilä 2. Nummenkylä 3. Pietilä 4. Haarajoki 5. Jamppa 6. Peltola 7. Isokytö 8. Mylly 9. Saunakallio 10. Sorto 11. Pajala 12. Loutti 13. Pöyäalho 14. Terhola 15. Satumetsä 16. Mikonkorpi 17. Kaakkola 18. Keskus 19. Kinnari 20. Satukallio 21. Vanhakylä 22. Lepoja 23. Kyrölä 24. Terioja 25. Ristinummi
Gwleidyddiaeth
[golygu | golygu cod]Canlyniadau o ethodiad seneddol y Ffindir 2011 yn Järvenpää:
- Plaid y Glymblaid Genedlaethol/National Coalition Party 27.1%
- Plaid y Democratiaid Sosialaidd/Social Democratic Party 21.7%
- Y Geir Ffiniaid/True Finns 21.5%
- Y Gynghrair Werdd/Green League 10.3%
- Y Baid Ganolog/Centre Party 6.7%
- Cynghriar y Chwith/Left Alliance 6.2%
- Y Democratiaid Cristnogol/Christian Democrats 3,6%
- Plaid y Bobl Swedeg/Swedish People's Party 0.7%
Rheolaeth a Gwleidyddiaeth
[golygu | golygu cod]Perthynnai Järvenpää i Uudenmaan vaalipiiri (ardal etholiadol o Uusimaa) ac mae gan gyngor y dref 51 o cynghorwyr. Grwpiau gwleidyddol cyngor y dref rhwng 2004 a 2008 oedd :
- Suomen Sosialidemokraattinen Puolue (Plaid y Democratiaid Sosialaidd y Ffindir) (14 cynghorwr),
- Kokoomus (Plaid y Glymblaid Genedlaethol) (13),
- Järvenpää 2000 Plus (7),
- Keskusta (Y Blaid Ganolog) (7),
- Vihreä liitto (Y Gynghrair Werdd)[2] (4),
- Vasemmistoliitto (Cynghrair y Chwith) (3),
- Kristillisdemokraatit (Y Democratiatd Cristnogol) (1),
- Suomen kommunistinen puolue (Plaid Comiwnyddol y Ffindir) (1),
- Liberaalit (Rhyddfydwyr) (1).
Arlywydd y cyngor oedd Ari Åberg (Kokoomus).[3]
Cysylltiadau rhyngwladol
[golygu | golygu cod]Gefeilldrefi
[golygu | golygu cod]Mae Järvenpää wedi ei gefeillio â:
- Vác, Hwngari
- Rødovre, Denmarc
- Lørenskog, Norwy
- Täby, Sweden
- Jõgeva County, Estonia
- Volkhov Rwsia
- Buchholz in der Nordheide, yr Almaen
- Pasadena, Califfornia, Unol Daleithiau America
- Ho, Ghana
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Railway timetables Error in webarchive template: Check
|url=
value. Empty. - ↑ "Tervetuloa! - Järvenpään vihreät ry". Jarvenpaanvihreat.fi. Cyrchwyd 2014-02-26.
- ↑ "Statistic Finland municipal election results. (2004)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-08-01. Cyrchwyd 2021-02-18.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Järvenpää - Wikivoyage
- Tref Järvenpää Archifwyd 2006-05-02 yn y Peiriant Wayback – safle Swyddogol
- Puistoblues ŵyl