J. G. Parry-Thomas
J. G. Parry-Thomas | |
---|---|
Parry-Thomas yn Brooklands. | |
Ganwyd | 6 Ebrill 1884 Wrecsam |
Bu farw | 3 Mawrth 1927 Traeth Pentywyn |
Dinasyddiaeth | Cymru, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | peiriannydd |
Cyflogwr |
Peiriannydd a gyrrwr ceir rasio o Gymru oedd John Godfrey Parry-Thomas (6 Ebrill 1884 - 3 Mawrth 1927). Ganed Parry-Thomas yn Wrecsam (yn Sir Ddinbych yr adeg hynny), lle roedd ei dad yn gurad yn Rhosddu. Pan oedd yn bump oed, symudodd y teulu i Groesoswallt, ac addysgwyd ef yn Ysgol Croesoswallt a Choleg City and Guilds, Llundain, lle astudiodd o beirianwaith drydanol ym 1902. Tra bod yna, daeth yn gyfaill i Ken Thomson. Daeth Thomson yn gynorthwywr iddo fo yn Brooklands, ac yn hwyrach gweithiodd o efo Malcolm Campbell are 'Bluebird'.
Daeth yn brif beiriannydd cwmni Leyland Motors, a thua diwedd y 1910au cynlluniodd ef a'i gynorthwydd Reid Railton y Leyland Eight, i gystadlu yn erbyn Rolls-Royce. Erbyn 1921 roedd y car ar gael ar gost o £2,700 ar gyfer car teithio pump sedd.
Adeiladwyd 14 ohonynt, gan gynnwys dau i'r Maharajah o Patiala ac un arall i Michael Collins, yr arweinydd gwleidyddol Gwyddelig. Cafodd bob un ohonynt corff gwahanol, a defnyddiodd Parry-Thomas un o'r ceir ar ddechrau ei yrfa rasio ym 1922. Gadawodd ei yrfa fel peiriannydd efo Leyland i ddod yn yrrwr rasio proffesiynol yn Brooklands yn Surrey.
Yn ystod y 1920au, bu ef a Malcolm Campbell yn ceisio cymryd record cyflymdra y byd oddi wrth ei gilydd ar Draeth Pentywyn yn Sir Gaerfyrddin. Ar 3 Mawrth 1927 roedd Parry-Thomas yn ceisio torri'r record eto yn ei gar Babs. Lladdwyd ef pan dorrodd cadwyn ar y car ar gyflymdra o 170 milltir yr awr a'i daro. Claddwyd ef yn Byfleet yn Surrey, gerllaw Brooklands, a chladdwyd Babs ar y traeth lle digwyddodd y ddamwain. Yn ddiweddarach, adferwyd y car gan Owen Wyn Owen, ac mae'n awr i'w weld yn yr amgueddfa ym Mhentywyn.
Erbyn 1908 roedd o wedi cynllunio trawsyriant trydanol cymhareb anfeidraidd â ddefnyddiwyd mewn bws Lundain, railcars a tramcar. Gwasanaethodd o ar fyrddau cynghorol y llywodraeth yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Rasiodd o'r Leyland-Thomas Rhif 1 yn Brooklands yn llwyddiannus o 1922 ymlaen, a dechreuodd torri recordiadau yr un blwyddyn. Ar 9 Tachwedd 1922, gosododd record y byd ar gyfer 10 milltir dechreuad ar wib o 114.74 milltir yr awr. Ym 1923 gosododd recordiadau y byd ar gyfer 5 milltir a 10 milltir ar wib o 119.43 milltir yr awr a 116.25 milltir yr awr respectively. Adeiladwyd Leyland-Thomas newydd ym 1924, ac ar 22 Mai 1924, codwyd y recordiadau 5 milltir a 10 milltir ar wib i 122.86 milltir yr awr a 120.46 milltir yr awr. Crëwyd record y byd dros milltir ar wib, 129.73 milltir yr awr ar 26 Mehefin 1924, a record 1 awr o 109 milltir 160 llath.
Aeth â'r Leyland-Thomas i agoriad o drac newydd Montlhery yn ymyl Paris, ac ar 19 Hydref 1924, enillodd Grand Prix de L'Ouverture 25 cilomedr i geir dros 1500cc.
Ar gychwyn 1925, aeth Sunbeam 6-silindr 2 litr Sunbeam tra-chywasgedig i Montlhery, efo gyrwyr Segrave, Parry-Thomas, a Conelli, i geisio torri recordiadau 12 a 24 awr. Ar 22 Chwefror 1925, sefydlwyd record tair awr, o 102.74 milltir yr awr, a hefyd recordiadau dosbarth dros 50 milltir, 100 cilomedr a 100 milltir, i gyd dros 100 milltir yr awr.
Yr un flwyddyn, prynodd o 'Higham Special' oddi wrth stad Cownt Zborowski ar ôl ei farwolaeth ym Monza ac wedi ei ail-adeiladu efo'r enw Babs.
Ar 19 Hydref, ceisiodd torri record y byd Malcolm Campbell o 150.76 milltir yr awr, ond doedd y tywydd a chyflwr y traeth ddim yn ddigon da.
Ar 27 Ebrill 1926, torrodd o record y byd efo cyflymder o 168.07 dros milltir, a 169.24 milltir yr awr dros cilomedr ar Draeth Pentywyn, ac y diwrnod nesaf, codwyd y recordiadau at 170.62 a 171.09 milltir yr awr, i gyd yn cychwyn ar wib.
Aeth Parry Thomas yn ôl i Brooklands, a thorrodd "Babs" recordiadau dosbarth ar 14 Hydref 1926, dros 5 a 10 milltir, a 10 cilomedr.
Ar 3 Mawrth 1927, roedd Parry-Thomas yn ceisio torri'r record y byd ar Ddraeth Pentywyn eto, pan torrodd cadwyn ar gyflymder o 170 milltir yr awr, a bu farw Parry-Thomas. Claddwyd y car ar y traeth.