La Liga
Gwlad | Sbaen |
---|---|
Conffederasiwn | UEFA |
Ffurfiwyd | 1929 |
Nifer o dimau | 20 |
Lefel yn y pyramid | 1 |
Cwympo i | Segunda División |
Cwpanau domestig | Copa del Rey Supercopa de España |
Cwpanau rhyngwladol | Cynghrair y Pencampwyr UEFA Cynghrair Europa UEFA |
Pencampwyr | Real Madrid (34in penc.) (2019-20) |
Mwyaf llwyddiannus | Real Madrid (34) |
Gwefan | www.lfp.es |
Y Primera División (Cymraeg: Adran Gyntaf) o'r Liga Nacional de Fútbol Profesional (LFP), sy'n cael ei adnabod fel La Liga, yw prif adran system bêl-droed Sbaen ac fe'i hadnabyddir, am resymau nawdd, fel Liga BBVA (Cynghrair BBVA). Fe'i gweinyddir gan Ffederasiwn Frenhinol Pêl-droed Sbaen, yr RFEF.
Mae 20 tîm yn yr adran gyda'r tri tîm sy'n gorffen ar waelod yr adran yn disgyn i'r Segunda División (Ail Adran) ar ddiwedd y tymor gyda'r ddau dîm ar frig y Segunda ac enillydd gêm ail gyfle yn esgyn yn eu lle. Mae 60 o dimau gwahanol wedi cystadlu yn La Liga gyda naw tîm gwahanol yn cael eu coroni'n bencampwyr. Real Madrid a Barcelona sydd wedi rheoli'r bencampwriaeth gyda Real Madrid yn ei hennill 32 o weithiau a Barcelona 22 o weithiau.
Hanes
[golygu | golygu cod]Cafwyd y syniad o greu pencampwriaeth cenedlaethol i brif dimau Sbaen ym 1927 gan José María Acha, cyfarwyddwr â chlwb Arenas Club de Getxo, ac estynnwyd gwahoddiad i Barcelona, Real Madrid, Athletic Bilbao, Real Sociedad, Arenas Club de Getxo a Real Unión fel cyn enillwyr y Copa del Rey a cafodd Atlético Madrid, Espanyol ac Europa o ddinas Barcelona wahoddiad fel clybiau oedd wedi colli yn y rownd derfynol o’r Copa.[1]
Ers sefydlu’r gynghrair ym 1929, ‘dyw Barcelona, Real Madrid ac Athletic Bilbao erioed wedi disgyn allan o’r Primera ond mae un neu ddau o’r clybiau gwreiddiol wedi disgyn yn bell iawn. Mae Arenas Club de Getxo ac Europa bellach yn chwarae yng Ngrwpiau rhanbarthol y Tercera División, sef pedwaredd rheng o bêl-droed Sbaen, tra bo Real Unión yn chwarae yn y drydedd rheng o’r pyramid, y Segunda B.
Clybiau presennol
[golygu | golygu cod]Isod mae rhestr o glybiau fydd yn chwarae yn nhymor 2024–25.
Pencampwyr
[golygu | golygu cod]Clwb | Enillwyr | Ail | Tymhorau buddugol |
---|---|---|---|
1931–32, 1932–33, 1953–54, 1954–55, 1956–57, 1957–58, 1960–61, 1961–62, 1962–63, 1963–64, 1964–65, 1966–67, 1967–68, 1968–69, 1971–72, 1974–75, 1975–76, 1977–78, 1978–79, 1979–80, 1985–86, 1986–87, 1987–88, 1988–89, 1989–90, 1994–95, 1996–97, 2000–01, 2002–03, 2006–07, 2007–08, 2011–12, 2016-17 | |||
1929, 1944–45, 1947–48, 1948–49, 1951–52, 1952–53, 1958–59, 1959–60, 1973–74, 1984–85, 1990–91, 1991–92, 1992–93, 1993–94, 1997–98, 1998–99, 2004–05, 2005–06, 2008–09, 2009–10, 2010–11, 2012–13, 2014-15, 2015-16, 2017-18, 2018-19 | |||
1939–40, 1940–41, 1949–50, 1950–51, 1965–66, 1969–70, 1972–73, 1976–77, 1995–96, 2013–14 | |||
1929–30, 1930–31, 1933–34, 1935–36, 1942–43, 1955–56, 1982–83, 1983–84 | |||
Valencia | 1941–42, 1943–44, 1946–47, 1970–71, 2001–02, 2003–04 | ||
1980–81, 1981–82 | |||
Deportivo La Coruña | 1999–2000 | ||
Sevilla | 1945–46 | ||
Real Betis | 1934–35 |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Sgorio: Heddiw Mewn Hanes 10 Chwefror". 2011-01-10. Unknown parameter
|published=
ignored (help)
|