Neidio i'r cynnwys

Llysywen

Oddi ar Wicipedia
Llysywen
Llun y rhywogaeth
Map
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Actinopterygii
Urdd: Anguilliformes
Teulu: Anguillidae
Genws: Anguilla
Rhywogaeth: A. anguilla
Enw deuenwol
Anguilla anguilla
(Linnaeus 1758)
Édouard Manet, 1864

Pysgodyn hir sarffaidd heb esgyll pelfig o urdd yr Anguillidae sy'n mudo o ddŵr croyw i ddŵr hallt i silio ydy'r llysywen sy'n enw benywaidd; lluosog: llysywod (Lladin: Anguilla anguilla; Saesneg: European eel).

Mae ei diriogaeth yn cynnwys Ewrop, Môr y Gogledd, y Môr Du, y Môr Canoldir a'r Môr Baltig ac mae i'w ganfod ar adegau yn aberoedd ac arfordir Cymru.

Ar restr yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (UICN), caiff y rhywogaeth hon ei rhoi yn y dosbarth 'Rhywogaeth mewn perygl difrifol' o ran niferoedd, bygythiad a chadwraeth.[1]

Cysylltiadau â phobl

[golygu | golygu cod]
  • "Erbyn hyn yr oeddwn i'n edrych i ddyfnderau'r llyn. ‘A oes llysywod ynddi?’ gofynnais. “Mi ddeliais i un y llynedd oedd â digon o gig arni i’r fedel am ddau ddiwrnod. ’A fling'soch chi hi?’ gofynnais. ‘Wel do, wrth gwrs, ac mi werthais ei chroen hi i lady o Lundain am bum punt.’ ‘Beth y mae'r ladies yn ei wneud â chrwyn llysywod?’ gofynnais mewn syndod. ‘O groen llysywen y maen' nhw'n cael careiau i'w hesgidiau gorau,’ oedd yr ateb di-wrid; ‘ac y mae careiau croen llysywen yn para am oes,’ ychwanegodd.”[2]
  • 'Slywen, llysywen: pysgodyn môr sydd yn gallu byw o fewn dŵr croyw, yn wahanol i'r eog a'r sewin sydd yn bysgod dŵr croyw sydd yn gallu byw yn y môr. Mae pob slywen dros 40cm yn fenywaidd. Nid ydynt mor gyffredin nawr. Enw arall yw llysywen rawn:
"a freshwater eel often found in horse ponds. . . Believed to develop from horses tails. Notion that if 'rhawn' (horsetails) be pulled out by the root and put in the pond it will grow into eels"[3]
  • "Pan oeddwn (DB) yn fachgen yn y 1950-60au bu’n arfer gennym ymweld â phistyll Cerrig y Rhyd, Betws Garmon i weld y miloedd o ’slywod bach yn berwi yn y dŵr ar eu taith rhwng Môr y Sargasso a blaenau’r Wyrfai".[2] Ar ôl holi preswyliwr o naturiaethwr sydd wedi croesi pont Cerrig y Rhyd yn ddyddiol i'w gartref dros 30 mlynedd, dywedodd yn 2018 nad oedd erioed wedi gweld y ffenomenon, er iddo glywed amdani sawl tro gan frodorion yr ardal. (Mae'n hysbys bod yslywod wedi prinhau yn arw dros y cyfnod dan sylw i'r graddau bod pryder mawr ynghylch ei dyfodol).
  • Mae Llyn Gelli Gain ('Llugan' ar lafar) ym mhlwy Trawsfynydd yn 1,300' o uchder uwchben y môr, felly syndod oedd o i mi ddarllen mewn llyfr teithiau cerddedangen ffynhonnell fod y lle'n enwog am lyswennod ers talwm (glywais i erioed hynny o'r blaen - penhwyad yn bendant, fel Llyn Peic oeddan i'n nabod y lle fel plant). Un nant fach sydd yn rhedeg ohoni i'r Afon Gain tua 450' yn îs i lawr yng Nghwm Dolgain - felly oes 'na bosibilrwydd fod llyswennod wedi bod yno rhyw dro wybodusion?[4]
  • Graffiti diddorol wedi ei naddu gyda phwyll a sgil ar Bont Talyrni ar Afon Nanmor, ger Hafod Garregog. Beryg bod na ddim sliwod y maint yma yn yr afon bellech! Yr unig ddyddiadau (yn y ddelwedd o leiaf, gw. y ddolen) ar y graig yw 1900 a 1933.[5]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Gwefan www.marinespecies.org adalwyd 4 Mai 2014
  2. Fred Jones (Y Cilie, 1977 ) Hunangofiant Gwas Fferm
  3. Morris. William Meredith. 1910. A glossary of the Demetian dialect of north Pembrokeshire yn [1]
  4. Keith O'Brien: Grwp Facebook Cymuned Llên Natur
  5. sylw personol Graham Williams
pFad - Phonifier reborn

Pfad - The Proxy pFad of © 2024 Garber Painting. All rights reserved.

Note: This service is not intended for secure transactions such as banking, social media, email, or purchasing. Use at your own risk. We assume no liability whatsoever for broken pages.


Alternative Proxies:

Alternative Proxy

pFad Proxy

pFad v3 Proxy

pFad v4 Proxy