Make Love Fuck War
Gwedd
Mae "Make Love Fuck War" yn gân wrth-ryfel gan y cerddor electronica Moby a'r grŵp hip hop Public Enemy. Cafodd y gân ei rhyddhau fel sengl yn 2004 ar label Mute Records[1] ac fe'i ceir hefyd yn yr albwm Unity: The Official Athens 2004 Olympic Games Album a'r albwm gan Public Enemy, New Whirl Odor. Rhyddhawyd y gân yn wreiddiol fel protest yn erbyn Rhyfel Irac 2003; mae'r fideo gerddoriaeth yn cyfuno delweddau o'r protestiadau stryd yn erbyn y rhyfel yn 2002–2003 gyda chlipiau o gyngherddau gan Moby a Public Enemy.
Geiriau
[golygu | golygu cod]Cyfansoddwyd geiriau'r gân gan Chuck D a Flavor Flav; cyfansoddwyd y gerddoriaeth i gyd gan Moby.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Make Love Fuck War" Archifwyd 2011-09-27 yn y Peiriant Wayback, Moby.com.
- ↑ "Moby & Public Enemy - Make Love Fuck War (CD)". Discogs.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) "Make Love Fuck War" Archifwyd 2011-09-27 yn y Peiriant Wayback ar wefan Moby
- (Saesneg) Geiriau'r gân Archifwyd 2013-07-23 yn y Peiriant Wayback ar wefan MetroLyrics